Bydd arholiadau’n cael eu cynnal yn yr haf ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, ac ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol. Bydd asesiadau ymarferol a di-arholiad eraill hefyd.
Blogiau diweddaraf
Canllaw i ddysgwyr ar arholiadau ac asesiadau 2025-2026
Dysgwyr ledled Cymru yn sefyll arholiadau TGAU fis yma
Dysgwyr yng Nghymru yn derbyn canlyniadau TGAU ar gyfer arholiadau mis Tachwedd
Canllaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau
Rydyn ni wedi cyhoeddi ein canllaw i arholiadau ac asesiadau 2025 - 2026, i roi'r wybodaeth mae eich dysgwyr eu hangen am drefniadau ar gyfer eu cymwysterau.
Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn amser prysur, a bydd gan nifer ohonoch gwestiynau am y trefniadau ar gyfer eich cymwysterau eleni.
Dysgwch fwy am eich arholiadau a'ch asesiadau, ynghyd â chymorth ychwanegol yn ein Canllaw i Arholiadau ac Asesiadau.
Cymorth a Chefnogaeth
Rydyn ni’n deall bod paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae amrywiaeth eang o adnoddau a chefnogaeth ar gael. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i gefnogaeth ychwanegol isod.

P’un a wyt ti’n ystyried parhau ag addysg ôl-16, dod yn brentis neu wneud cais am brentisiaeth gradd, mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth ddefnyddiol gyda chanllawiau a chymorth i’th helpu i gymryd dy gamau nesaf.

Os hoffet ti archwilio dy opsiynau mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, cer i wefan Colegau Cymru lle cei restr o holl golegau Cymru gyda dolenni i’w gwefannau unigol.

Os wyt ti eisiau symud ymlaen i addysg uwch, mae gan wefan UCAS ragor o wybodaeth am ba gyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.

Os hoffet ti gymryd dy gam nesaf i gyflogaeth, mae Cymru’n Gweithio ar gael i’th gefnogi gyda chyngor ac arweiniad am ddim a mynediad i hyfforddiant i’th helpu i gael gwaith ac i ddatblygu dy yrfa.
