Adolygiadau o waith marcio a chymedroli ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: haf 2025
Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer yr adolygiadau o waith marcio a chymedroli yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.
Oherwydd bod arholiadau’r haf wedi’u canslo yn 2020 a 2021, nid oes unrhyw ddata adolygiadau o waith marcio ar gyfer y blynyddoedd hyn.
Pwyntiau Allweddol:
- Gofynnwyd am 6,820 o adolygiadau TGAU yn dilyn cyfres arholiadau haf 2025. Mae hyn 2.7% yn uwch na’r ffigwr ar gyfer haf 2024, pan gafwyd 6,640 o adolygiadau.
- Cyhoeddwyd 312,880 o raddau TGAU yn haf 2025. Cafodd 1.4% o'r holl raddau TGAU a ddyfarnwyd eu herio, a chafodd 0.3% o'r holl raddau TGAU eu newid.
- Bu 2,235 adolygiad o waith marcio ar gyfer yr asesiadau UG neu Safon Uwch a safwyd yng nghyfres arholiadau haf 2025. Mae hyn yn ostyngiad o 11.3% o'i gymharu â haf 2024.
- Cyhoeddwyd 72,775 o raddau UG a Safon Uwch yn haf 2025. Cafodd 2.2% o'r holl raddau UG a Safon Uwch a ddyfarnwyd eu herio, a newidiwyd 0.3% ohonynt.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru