Adroddiad blynyddol ar y farchnad gymwysterau: blwyddyn academaidd 2023 i 2024 yng Nghymru
Adroddiad blynyddol sy'n crynhoi ystadegau swyddogol am y farchnad gymwysterau yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024.
Nodyn diwygio
Diwygiwyd y datganiad hwn ar 29 Ebrill 2025, ar ôl ei gyhoeddi ar 20 Chwefror 2025, gan y cyflwynwyd data wedi'i gywiro gan un corff dyfarnu ar ôl ei gyhoeddi.
Mae'r diwygiad yn effeithio ar ddata tystysgrif ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau eraill ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024 yn unig. Mae'r nifer diwygiedig o dystysgrifau galwedigaethol a thystysgrifau eraill a ddyfarnwyd yn 3.5% is nag a adroddwyd yn flaenorol. Mae cyfanswm nifer diwygiedig y tystysgrifau a ddyfarnwyd yng Nghymru 1.6% yn is na'r hyn a adroddwyd yn flaenorol. Mae'r diwygiad wedi lleihau nifer y tystysgrifau a adroddwyd ar gyfer cymwysterau ar lefel 1 i lefel 4, ac mewn saith o'r pymtheg maes pwnc sector. Mae'r diwygiad hefyd wedi newid trefn rheng cyrff dyfarnu trwy dystysgrifau a gyhoeddwyd yng Nghymru.
Pwyntiau Allweddol
- Ar 31 Awst 2024, roedd 90 o gyrff dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru, sydd un yn llai nag ar yr un adeg yn 2023.
- Roedd 3,619 o gymwysterau cymeradwy neu ddynodedig ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024, gostyngiad o 1.8% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- Yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024, dyfarnwyd 766,625 o dystysgrifau ar gyfer cymwysterau rheoleiddiedig yng Nghymru, cynnydd o 4.7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- CBAC oedd y corff dyfarnu â'r gyfran fwyaf o'r farchnad, gan ddyfarnu 66.6% o'r holl dystysgrifau, 0.6 pwynt canran yn is na'u cyfran o'r farchnad yn y flwyddyn flaenorol.
Datganiadau blaenorol
Adroddiad blynyddol ar y farchnad cymwysterau: blwyddyn academaidd 2022 i 2023 yng Nghymru
Adroddiad blynyddol ar y farchnad cymwysterau: blwyddyn academaidd 2021 i 2022 yng Nghymru
Adroddiad blynyddol ar y farchnad cymwysterau: blwyddyn academaidd 2020 i 2021 yng Nghymru
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 250
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfathrebu@cymwysterau.cymru