Cyhoeddi adroddiad ymgynghori ar ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

ADRODDIAD

Dyddiad rhyddhau:

13.11.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cyhoeddi adroddiad ymgynghori ar ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

Ym mis Medi 2024, fe wnaethon ni gyhoeddi ein bwriad i ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn tri maes pwnc: cymhwyso rhif, cyfathrebu a llythrennedd digidol.

Daeth hyn ar ôl adolygiad manwl o'r cymwysterau, lle dywedodd y rhan fwyaf o'r bobl y gwnaethon ni ymgysylltu â nhw eu bod nhw eisiau i'r cymwysterau gael eu diwygio.

Ym mis Tachwedd 2025, fe wnaethon ni gyhoeddi ein hadroddiad 'Siapio Dyfodol Sgiliau Hanfodol Cymru: Ymgynghoriad ar y Gofynion Dylunio ar gyfer Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru newydd'.

Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar ein cynigion rydym yn ymgynghori arnyn nhw tan 5 Chwefror 2026.