Adroddiad Blynyddol 2024-25
Edrych yn ôl ar y flwyddyn academaidd ddiwethaf, ein cyflawniadau a'n gweithgareddau
Gan nodi degawd ers sefydlu Cymwysterau Cymru, mae ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf yn myfyrio ar flwyddyn o gynnydd sylweddol wrth siapio cymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru.
Mae'r adroddiad, sy'n edrych yn ôl ar flwyddyn academaidd 2024-25, yn amlygu cyflwyniad llwyddiannus y cymwysterau TGAU newydd cyntaf a gynlluniwyd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gyda chymwysterau pellach wedi eu cymeradwyo i'w cyflwyno y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Mae'r newidiadau hyn yn cynrychioli'r diwygiad mwyaf cynhwysfawr o gymwysterau cyn-16 a wnaed erioed yng Nghymru, gan sicrhau bod gan ddysgwyr ddewis cydlynol a chynhwysol o gymwysterau sy'n cyd-fynd yn llawn â'r cwricwlwm.
Ochr yn ochr â diwygiadau cyn-16, mae'r sefydliad wedi gweithio gyda cholegau a chyrff dyfarnu i sicrhau ystod gynaliadwy o gymwysterau ôl-16 mewn sectorau allweddol fel diwydiannau tir, teithio a thwristiaeth, a lletygarwch ac arlwyo. Mae hyn yn ymestyn argaeledd cymwysterau dwyieithog sydd wedi cael eu dylunio i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn cadarnhau dychweliad llyfn i'r trefniadau cyn-bandemig ar gyfer dyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, gyda chanlyniadau'n weddol gyson â blynyddoedd blaenorol – sy’n sicrhau hyder y cyhoedd o ran uniondeb y system gymwysterau.