Wedi ei dynnu yn ôl: Trefniadau mynediad ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch: blwyddyn academaidd 2022 i 2023

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

23.11.23

Cyfnod dan sylw:

Tachwedd 2024 (Dros dro)

Diweddariad nesaf:

blwyddyn academaidd 2022 i 2023

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Trefniadau mynediad ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch: blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Datganiad blynyddol sy’n cyflwyno data am nifer y trefniadau mynediad yng Nghymru a gymeradwywyd ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch.

Tynnwyd y cyhoeddiad hwn yn ôl ar 17 Gorffennaf 2025

Rydym wedi tynnu'r ystadegau swyddogol hyn yn ôl oherwydd ein bod yn credu mwy na thebyg eu bod wedi gorddweud nifer y trefniadau mynediad a gymeradwywyd yng Nghymru.

Ar 17 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Ofqual wybodaeth am y dadansoddiad a wnaed ar ddata trefniadau mynediad manylach. Dangosodd y dadansoddiad fod ystadegau swyddogol ar drefniadau mynediad a gyhoeddwyd gan Ofqual wedi gorddweud nifer y trefniadau mynediad a gymeradwywyd a oedd ar waith ar gyfer y cohort arholi ym mhob blwyddyn. Yn seiliedig ar yr astudiaeth hon, penderfynodd Ofqual dynnu'r ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr. Am fanylion pellach, gweler https://ofqual.blog.gov.uk/shedding-new-light-on-access-arrangements-data.

Mae'r ystadegau trefniadau mynediad a gyhoeddwyd gennym ar gyfer Cymru yn defnyddio'r un set ddata sylfaenol ag ystadegau a gyhoeddwyd gan Ofqual ar gyfer Lloegr. Rhoddwyd y data hwn i ni gan gyrff dyfarnu. Rydym o'r farn felly ei bod yn rhesymol tybio bod y materion a ddarganfyddwyd gan ddadansoddiad Ofqual hefyd yn berthnasol i'r data a ddarparwyd i ni ar gyfer Cymru. Byddwn yn gweithio gyda Ofqual a'r cyrff dyfarnu i edrych ar yr opsiynau sydd ar gael i ni i gasglu data mwy cywir i gynhyrchu ystadegau mwy cadarn ar gyfer Cymru. Tra ein bod ni'n cyflawni'r gwaith hwn, rydym yn tynnu'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol yn ôl.

Nid yw'r mater hwn yn effeithio ar y ffigurau sy'n gysylltiedig â phapurau wedi'u haddasu, sy'n seiliedig ar ffynhonnell ddata wahanol. Byddwn yn ailgyhoeddi’r ystadegau hyn yn y dyfodol.

Cyswllt

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru