Os ydych chi’n athro mewn ysgol, yn ddarlithydd mewn lleoliad addysg bellach neu’n hyfforddwr mewn lleoliad seiliedig ar waith neu leoliad dysgu arall, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi a’ch dysgwyr wrth iddyn nhw geisio ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu pellach a gwaith.

Y cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru

Cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed

Mae Cymwysterau Cenedlaethol newydd  yn cael eu cyflwyno ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed rhwng Medi 2025 a Medi 2027. Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cynnwys: 

Bydd nifer fach o gymwysterau dynodedig  ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed sydd y tu allan i'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol cymeradwy. 

Rydym wedi llunio canllaw cynhwysfawr i gefnogi canolfannau ac addysgwyr yng Nghymru gyda’r broses o bontio i ddefnyddio’r Cymwysterau Cenedlaethol newydd. Gall addysgwyr ddod o hyd i wybodaeth a chymorth sy'n ymwneud â’r canlynol: 

  • bodloni hawl y dysgwr gyda'r cymwysterau newydd
  • asesu digidol a pharatoi i gyflwyno arholiadau digidol yn unig
  • asesiadau di-arholiad a rheoli llwyth gwaith dysgwyr
  • amserlenni a manylion ynghylch datblygu'r cymwysterau TAAU, Sylfaen a Chyfres Sgiliau newydd
Cymwysterau ar gyfer dysgwyr ôl-16
Cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru

Mae ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi i’w haddysgu yng Nghymru ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed - ac eithrio addysg uwch.

Mae'r wybodaeth a gedwir ar Cymwysterau yng Nghymru’n cynnwys teitlau cymwysterau, rhifau, dyddiadau dechrau a gorffen, manylion y cyrff dyfarnu a gwybodaeth bellach - megis mesurau perfformiad ac a yw'r cymhwyster yn cyfrif fel dewis ar gyfer llwybrau dysgu 14 i 19.

Dysgu proffesiynol a chefnogaeth 

Darperir yr holl ddysgu proffesiynol a chefnogaeth i addysgwyr gan y corff dyfarnu a ddatblygodd y cymhwyster. Dyma CBAC ar gyfer pob cymhwyster TGAU, UG a Safon Uwch cymeradwy.

Cyflwyno arholiadau ac asesiadau

Arholiadau ac asesiadau yn 2025-2026

Yn yr adran bwrpasol hon ar arholiadau ac asesiadau 2025-2026, fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau'r flwyddyn academaidd hon. 

Canlyniadau haf 2025

Am yr holl wybodaeth sy'n ymwneud â chanlyniadau arholiadau'r llynedd, ewch i'n hadran bwrpasol ar ganlyniadau haf 2025.

Arholiadau ac asesiadau digidol

Mae arholiadau ac asesiadau digidol yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn cymwysterau yng Nghymru. Gallant fod yn fuddiol iawn i ddysgwyr a'r system gymwysterau ehangach, fodd bynnag, rydym yn deall yr heriau y gall rhai ysgolion a cholegau eu hwynebu wrth eu cyflwyno. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu i ddarparu canllawiau amserol a defnyddiol i gefnogi cyflawni asesiadau digidol. 

Gallwch weld cymorth a chanllawiau ar gyfer asesiadau digidol yma

Cynllunio wrth gefn

Rydym yn gwybod bod siawns fach bob amser y bydd angen gwneud trefniadau eraill wrth gynnal arholiadau. Dylai canolfannau barhau i fod yn barod ar gyfer gweithredu trefniadau wrth gefn posibl.

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer cynllunio wrth gefn.

Cydnabod dysgu blaenorol

Mae cydnabod dysgu blaenorol (RPL) yn disgrifio proses lle mae tystiolaeth o ddysgu a/neu gyflawniad blaenorol dysgwr yn cael ei asesu a gellir ei ddefnyddio i eithrio’r dysgwr o ran o gymhwyster neu gymhwyster cyfan.  

Mae angen i'r dysgwr ddangos, trwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt eisoes, nad oes angen iddynt ailadrodd y cwrs na chwblhau gweithgaredd asesu ychwanegol. Bydd asesydd yn adolygu a yw'r dystiolaeth yn ddigon i ddangos bod dysgwr wedi bodloni'r gofynion asesu ar gyfer cymhwyster cyfredol neu ran o gymhwyster. 

Yn Cymwysterau Cymru, rydym yn cydnabod bod cydnabod dysgu blaenorol yn cynnig llawer o fanteision. I gael rhagor o wybodaeth am gydnabod dysgu blaenorol a'n polisi, ewch i'n hadran cydnabod dysgu blaenorol

Arholiadau 360: eglurhad o’r system arholiadau

Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio, ac rydym yn siŵr bod yr un peth yn wir amdanoch chithau hefyd. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu’r papur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?

Ar Arholiadau 360, mae modd i chi ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau, y gallai eich dysgwyr ofyn i chi.

Cefnogaeth i'ch dysgwyr

Taith y dysgwr

Rydym wedi datblygu cyfres o ddogfennau un dudalen sy'n dangos yr holl wahanol opsiynau a llwybrau cymhwyso sydd ar gael ym mhob sector. Gall addysgwyr ddefnyddio'r rhain i: 

  • gefnogi dysgwyr a'u rhieni wrth iddyn nhw ymchwilio i'w hopsiynau mewn maes galwedigaethol 
  • bod yn hygyrch ac yn afaelgar 
  • rhoi cipolwg syml ar yr holl lwybrau ac opsiynau sydd ar gael

Lefel Nesa

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar Lefel Nesa i ddarparu adnoddau i helpu eich dysgwyr i baratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Ein gwaith gydag addysg uwch

Mae Cymwysterau Cymru’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a ledled y DU.

Rydym hefyd yn cydweithio’n agos ag UCAS ac eraill, i wneud yn siŵr bod prifysgolion yn cael diweddariadau cyson am unrhyw ddatblygiadau sy’n ymwneud â chymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru.

Rydym wedi datblygu canllaw i gymwysterau yng Nghymru ar gyfer timau derbyn addysg uwch. 

Cymryd rhan

Mae Cymwysterau Cymru eisiau i ymarferwyr o bob rhan o addysg Cymru helpu i sicrhau ein bod ni’n creu system gymwysterau sy’n wirioneddol addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

O bryd i'w gilydd, rydym yn recriwtio unigolion i'n helpu gyda'r gwaith hwnnw - cadwch lygad ar ein hadran swyddi a chyfleoedd os oes gennych chi ddiddordeb a gwnewch yn siŵr bod eich staff a’ch llywodraethwyr yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau misol.

Rydym hefyd yn cynnal ymgynghoriadau, arolygon, a sesiynau cynnwys rheolaidd. Edrychwch ar ein safle Dweud Eich Dweud am ragor o fanylion am sut gall eich canolfan chi gymryd rhan.