BLOG

Cyhoeddwyd:

24.11.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Adeiladu gyrfa mewn iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant: esbonio'r TGAU newydd

Tom Croke, Rheolwr Cymwysterau, sy’n edrych ar sut mae cymwysterau gradd unigol a dwyradd cyfredol wedi cael eu tynnu ynghyd mewn cymhwyster TGAU newydd sbon mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.

Tom Croke, Rheolwr Cymwysterau
Tom Croke, Rheolwr Cymwysterau

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd dysgwyr yng Nghymru yn gallu astudio cymhwyster TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant sydd newydd gael ei ddylunio, ac sy'n adlewyrchu anghenion newidiol y sectorau, ac uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r cymhwyster TGAU newydd hwn yn cynnig cyflwyniad ystyrlon i un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf a chyflymaf eu twf yng Nghymru. Bydd dysgwyr yn archwilio sut mae unigolion yn cael eu cefnogi mewn lleoliadau fel ysbytai, cartrefi gofal, meithrinfeydd, ysgolion a gwasanaethau cymunedol.

Drwy'r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn derbyn y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddeall iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yng Nghymru yn yr 21ain ganrif, ac i baratoi ar gyfer astudiaethau yn y sector yn y dyfodol.

Felly, sut mae'r cymhwyster hwn yn wahanol i'r cymhwyster TGAU presennol?

Edrych yn fanylach ar y cynnwys

Un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol yn y cymhwyster TGAU newydd yw cyfuno'r opsiynau gradd unigol a dwyradd blaenorol yn un cymhwyster. Fodd bynnag, bydd dysgwyr yn parhau i astudio iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, gan gael mewnwelediad i’r gefnogaeth mae unigolion yn gallu ei chael drwy gydol eu bywydau.

Byddan nhw’n archwilio:

  • twf, datblygiad a lles bodau dynol yn ystod eu hoes
  • ffactorau sy'n effeithio ar iechyd, ac offer a ddefnyddir i fesur a chefnogi lles
  • sut mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio i ddiwallu anghenion gwahanol unigolion a chyflawni canlyniadau cadarnhaol
  • iechyd cyhoeddus a hyrwyddo iechyd
  • cyflyrau a salwch allweddol ymhlith plant ac oedolion
  • chwarae a gwaith chwarae
Trefniadau asesu diwygiedig

Bydd dysgwyr yn astudio iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, yn gyfartal.

Byddan nhw’n sefyll un asesiad arholiad, gwerth 40%, sy'n asesu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ar draws y ddau faes. Mae hyn yn sicrhau bod cysyniadau, egwyddorion a fframweithiau craidd o faes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, yn cael eu harchwilio'n llawn.

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn cwblhau dau asesiad di-arholiad, pob un yn werth 30%:

  • mae un yn canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, lle byddan nhw’n ymchwilio i sut mae gwasanaethau’n cefnogi unigolion yn ystod eu hoes
  • mae'r llall yn canolbwyntio ar ofal plant, lle byddan nhw’n archwilio sut mae plant yn datblygu ac yn cael eu cefnogi mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar

Bydd y dull cytbwys hwn yn galluogi dysgwyr i ennill profiad ystyrlon yn y ddau faes, gan gefnogi dilyniant i astudiaethau pellach a gyrfaoedd yn sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant Cymru.

Fel rhan o'r ymrwymiad ehangach i arloesi digidol, bydd o leiaf un asesiad ar gael yn ddigidol o fewn pum mlynedd. Mae'r newid hwn yn cefnogi mwy o hygyrchedd a hyblygrwydd yn y ffordd y mae dysgwyr yn ymgysylltu â'r cymhwyster.

Cyfoethogi profiad y dysgwr

Yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru, mae'r cymhwyster yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn profiadau ystyrlon sy'n ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Er nad ydyn nhw’n cael eu hasesu'n uniongyrchol, mae'r profiadau hyn yn helpu dysgwyr i gysylltu eu dysgu â chyd-destunau yn y byd go iawn ac i ddatblygu ymdeimlad cryfach o gynefin, eu lle a'u hunaniaeth yn eu cymuned.

Er enghraifft, efallai bydd dysgwyr yn ymweld â lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant lleol, archwilio llwybrau gyrfa trwy ymchwil neu sgyrsiau arbenigol, neu’n rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol (naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein) i glywed yn uniongyrchol am weithio yn y sector.

Cefnogi canolfannau trwy newid

Dros y flwyddyn i ddod, bydd CBAC yn cyflwyno rhaglen o ddysgu proffesiynol ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cymhwyster hwn, gan gynnwys:

  • egluro’r fanyleb
  • sesiynau briffio ar-lein byw ar y cymwysterau
  • digwyddiadau wyneb yn wyneb 'Paratoi i Addysgu'
  • egluro’r asesiadau

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CBAC.