Sgiliau Hanfodol Cymru: Canolbwyntio ar ddyfodol sgiliau digidol
Y Rheolwr Cymwysterau, Nathan Evans, sy’n cyflwyno ein cynigion ar gyfer cymwysterau sgiliau digidol newydd Sgiliau Hanfodol Cymru.
Mae gallu digidol yn bwysicach nag erioed. Boed yn llenwi ffurflenni ar-lein, yn rheoli gwybodaeth bersonol, yn cydweithio'n ddigidol, neu’n llywio risgiau a chyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial (AI), mae angen yr hyder a'r cymhwysedd ar ddysgwyr i gymryd rhan lawn mewn byd cysylltiedig. Bwriad y diwygiadau arfaethedig i gymwysterau sgiliau digidol Sgiliau Hanfodol Cymru yw sicrhau eu bod yn datblygu yr un mor gyflym â’r datblygiadau diweddaraf yn y dirwedd newidiol hon gan gadw cryfderau'r gyfres bresennol.
Bydd y cymwysterau hyn ar eu newydd wedd yn cydbwyso parhad a newid: gan amddiffyn yr hyn sydd eisoes yn gweithio'n dda wrth foderneiddio cynnwys, ac yn ailgynllunio asesu fel ei fod yn parhau i fod yn ystyrlon ac yn hylaw.
Beth sy'n aros yr un fath a pham
Ffocws digidol cryf ac ymarferol
Yn eu hanfod, mae cymwysterau sgiliau digidol yn dal i ganolbwyntio ar y sgiliau digidol go iawn a throsglwyddadwy sydd eu hangen ar ddysgwyr mewn bywyd bob dydd. Mae'r pum maes sgiliau cyfarwydd - cyfrifoldeb digidol, cynhyrchedd, llythrennedd gwybodaeth, cydweithio a chreadigrwydd - yn parhau i fod yn ganolog. Roedd ymarferwyr yn rhoi adborth cyson bod y strwythur hwn yn cefnogi cynllunio a chyflwyno clir, ac yn adlewyrchu natur go iawn gweithgarwch digidol.
Cymhwyster wedi ei gynllunio ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith
Mae'r cynigion newydd yn cadw'r natur ymarferol, gymhwysol sy'n diffinio Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd dysgwyr yn parhau i greu adnoddau digidol, rheoli gwybodaeth, cyfathrebu ar-lein a defnyddio offer digidol yn ddiogel. Mae'r cymwyseddau hyn yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer cyflogadwyedd a llywio bywyd digidol bob dydd yn hyderus ac yn gyfrifol, felly mae'r cymwysterau sydd wedi eu diweddaru yn cadw'r pwrpas craidd hwn.
- Beth sy'n newid a pham
- Model cynnydd symlach
Un o'r newidiadau arfaethedig mwyaf arwyddocaol yw bod strwythur cliriach a mwy pendant i’r lefelau. Mae'r gyfres bresennol yn cwmpasu Mynediad 1 i Lefel 3. O dan y cynigion, byddai sgiliau digidol yn symud i lefelau Mynediad 3, Lefel 1 a Lefel 2 yn unig.
Dangosodd ein hadolygiad mai ychydig iawn o alw sydd am gymwysterau sgiliau digidol Mynediad 1, Mynediad 2 a Lefel 3. Mae mwy o gysylltiad bob dydd â thechnoleg yn golygu nad yw'r lefelau mynediad is bellach yn adlewyrchu mannau cychwyn dysgwyr, tra bod y Lefel 3 ond yn cael ei defnyddio mewn nifer fach o gyd-destunau arbenigol sydd bellach yn newid. O ganlyniad, mae'r cynigion newydd yn canolbwyntio ar lefelau Mynediad 3 i Lefel 2, lle mae'r cymhwyster yn fwyaf perthnasol, a lle mae'r nifer fwyaf o ddysgwyr yn dilyn y cymhwyster.
Mae'r newid hwn yn:
- symleiddio’r gwaith cyflwyno ar gyfer canolfannau
- cyd-fynd â'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymgysylltu â sgiliau digidol ar hyn o bryd
- gwella eglurder trwy gael gwared ar lefelau a oedd yn denu nifer fach iawn o ddysgwyr
Cynnwys modern, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol
Mae bywyd digidol wedi trawsnewid ers i'r cymwysterau gael eu hadolygu ddiwethaf, dros ddeng mlynedd yn ôl. Mae'r cynigion yn diweddaru cynnwys ar draws pob lefel i adlewyrchu:
- systemau awtomataidd ac AI
- olion traed digidol a phreifatrwydd data
- diogelwch dyfeisiau a chyfrifon
- offer cwmwl
- cael mynediad at wybodaeth ddigidol a'i rheoli'n ddiogel
Mae’n bwysig nodi na fydd y cynnwys diwygiedig wedi ei gyfyngu i feddalwedd benodol, gan sicrhau bod dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau trosglwyddadwy yn hytrach na sgiliau sy'n gysylltiedig â llwyfannau penodol.
Mewn ymateb i adborth ymgynghori, mae AI yn chwarae rhan amlwg yn y cymwysterau newydd. Ar lefel Mynediad 3, mae dysgwyr yn dod yn ymwybodol o wybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu gan AI. Ar Lefel 1, maen nhw’n archwilio ei ddefnyddiau, ei fanteision a'i risgiau. Ar Lefel 2, maen nhw’n archwilio ei oblygiadau moesegol, cymdeithasol a chyfreithiol, gan sicrhau bod Cymru'n meithrin nid yn unig defnyddwyr digidol, ond dinasyddion digidol.
Model asesu mwy hylaw
Mae'r ymgynghoriad yn cynnig dull asesu hybrid ar gyfer Lefel 1 a Lefel 2. Byddai hyn yn cynnwys:
- prawf allanol ar y sgrin sy'n asesu elfennau sy'n seiliedig ar wybodaeth
- ail gydran a asesir yn fewnol, yn ôl pob tebyg tasg ymarferol neu weithgaredd rheoledig, wedi ei chynllunio i asesu'r sgiliau a ddangosir orau trwy waith digidol ymarferol
Mae'r newid hwn yn ymateb yn uniongyrchol i adborth gan ganolfannau bod asesiadau cyfredol yn rhy hir, yn rhy heriol i'w gweinyddu, ac nad ydynt bob amser yn adlewyrchu arferion digidol dilys. Mae hefyd yn dileu'r drafodaeth strwythuredig yr oedd canolfannau'n nodi nad yw’n hawdd i’w hwyluso'n gyson nac yn darparu ffordd ddilys o asesu sgiliau digidol. Gyda'r model arfaethedig, mae asesu’n dod yn fwy hylaw ac yn fwy dilys. Mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i gyrff dyfarnu, gan gynnwys cwmpas i ganiatáu defnydd ymarferol o AI o fewn creadigrwydd digidol neu dasgau cynhyrchedd lle bo hynny'n briodol.
Edrych ymlaen
Mae cymwysterau sgiliau digidol arfaethedig Sgiliau Hanfodol Cymru yn cadw'r cryfderau y mae addysgwyr yn eu gwerthfawrogi wrth foderneiddio'r cynnwys a'r strwythur i fodloni realiti digidol heddiw. Maen nhw’n cynnig llwybr cliriach, cynnwys mwy perthnasol, a model asesu mwy cytbwys, gan sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn parhau i ddatblygu'r rhuglder digidol, yr hyder a'r ymwybyddiaeth feirniadol sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Gallwch chi helpu i siapio dyfodol cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru drwy ymateb i'n cynigion cyn 5 Chwefror 2026.