BLOG

Cyhoeddwyd:

29.04.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Creu braslun o’r cymhwyster TGAU newydd mewn celf a dylunio

Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau, sy’n amlinellu'r cymhwyster TGAU newydd mewn celf a dylunio ac yn ystyried y meysydd allweddol o newid hynny y gall athrawon a dysgwyr ddisgwyl eu gweld yn y fanyleb newydd.

Sarah Watson
Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau

O fis Medi 2025 ymlaen, bydd y cymhwyster TGAU newydd mewn celf a dylunio ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf, gan adlewyrchu beth mae pobl ifanc wedi'i ddysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru a sut. 

Mae'r rhyddid i archwilio, bod yn chwilfrydig ac ymddiried yn y broses greadigol yn ganolog i faes dysgu a phrofiad y celfyddydau mynegiannol o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Yn y cymhwyster TGAU newydd, gall dysgwyr ddewis canolbwyntio ar amrywiaeth o lwybrau artistig, gan gynnwys celf, crefft a dylunio, celfyddyd gain, cyfathrebu graffig, tecstilau, dylunio 3 dimensiwn neu ffotograffiaeth. Beth bynnag yw’r llwybr maen nhw’n ei ddilyn, bydd dysgwyr yn cael eu hysbrydoli gan amrywiaeth eang o artistiaid a dylunwyr, gan arbrofi gyda thechnegau artistig a thechnoleg ddigidol i fireinio eu sgiliau creadigol. 

Gall astudio celf hefyd alluogi dysgwyr i brofi a datblygu eu synnwyr o gynefin. Mae gan Gymru garfan o dalent artistig fywiog, lle mae artistiaid a dylunwyr amrywiol yn gwthio ffiniau creadigrwydd ac yn llunio’r sgyrsiau mawr. Mae'r cymhwyster newydd hwn wedi'i gynllunio i alluogi dysgwyr i gael eu hysbrydoli gan y dylanwadau o'u cwmpas, yn ogystal ag archwilio celf a dylunio ar raddfa fyd-eang. 

Beth sy'n newid yn y cymhwyster TGAU Celf a Dylunio newydd? 

Mae'r cymhwyster TGAU newydd yn cadw'r elfennau hynny sy'n gweithio'n dda yn y cymhwyster TGAU presennol. 

Bydd dysgwyr yn parhau i gael eu hasesu trwy ddau asesiad di-arholiad; portffolio gwerth 40% ac aseiniad ymarferol gwerth 60%. Mae'r mathau hyn o asesu ymarferol yn cyflwyno ffyrdd dilys a gafaelgar i ddysgwyr ddangos eu creadigrwydd, archwilio meysydd personol o ddiddordeb, ac annog dysgwyr i fyfyrio ar eu gwaith a’i fireinio. 

Yr hyn sy'n newid yw'r ffordd y mae'r cymhwyster TGAU newydd yn gwahodd dysgwyr i fyfyrio ar y themâu trawsgwricwlaidd yn y cwricwlwm, gan gynnwys hawliau dynol, cynaliadwyedd mewn celf a dylunio, a safbwyntiau a chyfraniadau amrywiol gan gynnwys rhai o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. 

Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfle i ddysgu am gyfleoedd gyrfa cyffrous ar draws sectorau creadigol Cymru ac ystyried eu cyfraniad i ddiwylliant bywiog yng Nghymru yn y dyfodol

Cefnogi canolfannau trwy newid

Er y bydd llawer o agweddau ar y cymhwyster TGAU newydd yn gyfarwydd i athrawon, mae ystod eang o gymorth ar gael i gynorthwyo paratoadau i gyflwyno'r cymhwyster newydd o fis Medi eleni. 

Mae CBAC eisoes wedi cyflwyno nifer o ddigwyddiadau 'paratoi i addysgu', yn ogystal â sesiynau briffio manylebau pynciau penodol. Gallwch gael mynediad at recordiadau o'r digwyddiad briffio TGAU Celf a Dylunio yma. Mae CBAC hefyd wedi lansio ei wefan adnoddau digidol newydd a gallwch ddod o hyd i'r adnoddau sy'n ymwneud â'r cymhwyster celf a dylunio newydd yma