BLOG

Cyhoeddwyd:

14.07.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Croesawu'r gyfres newydd o gymwysterau Cymraeg 14 i 16

Mae Bethan Spencer, Rheolwr Cymwysterau, yn ystyried y prif newidiadau i'r ystod newydd o gymwysterau Cymraeg 14 i 16, a’r hyn maen nhw’n ei olygu i ddysgwyr a'u hathrawon.

Deall yr ystod newydd o gymwysterau cenedlaethol 14 i 16 yn y Gymraeg

O fis Medi eleni, bydd ystod newydd gyffrous o gymwysterau Cymraeg ar gael i ddysgwyr 14 i 16 oed yng Nghymru. Bydd y cymwysterau TGAU newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Chymraeg Craidd, yn ogystal â’r Dyfarniad Lefel 2 newydd sbon mewn Craidd Cymraeg Ychwanegol, yn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dilyn cyrsiau uchelgeisiol sy'n eu galluogi i symud ymlaen gyda dysgu Cymraeg gydol oes. Mae'r newidiadau hyn yn gam mawr ymlaen wrth i ni gydweithio â rhannau eraill o'r sector addysg yng Nghymru i greu dysgwyr sydd yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd fel rhan o’u bywyd, eu dysgu a’u gwaith.

TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg

Bydd y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg newydd (cymhwyster Gradd Unigol a chymhwyster Dwyradd ) yn disodli'r cymwysterau TGAU Iaith Gymraeg a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg cyfredol ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion Categori 2 (ysgolion dwyieithog) neu ysgolion Categori 3 (ysgolion cyfrwng Cymraeg). Mae’n symud i ffwrdd o’r gwahanu traddodiadol a fu rhwng iaith a llenyddiaeth Gymraeg er mwyn adlewyrchu uchelgais Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r dull newydd cyffrous hwn yn anelu at ysbrydoli dysgwyr i weld y cysylltiadau rhwng eu dysgu wrth iddynt ymdrin ag amrywiaeth gyfoethog o ffynonellau iaith a llenyddiaeth Gymraeg, gan ddatblygu’r sgiliau ieithyddol a llenyddol fydd yn eu cefnogi i ddod yn gyfathrebwyr galluog, hyderus a chreadigol yn y Gymraeg.

Bu rhai newidiadau sylweddol i’r cymhwyster TGAU er mwyn adlewyrchu nodau’r maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Mae rhai newidiadau’n strwythurol, tra bod eraill yn ymwneud â chynnwys ac asesu. Daeth y newidiadau hyn yn sgil adborth ymgynghori ac ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid.

Integreiddio iaith a llenyddiaeth

Mae integreiddio iaith a llenyddiaeth yn golygu y gall llenyddiaeth ddod yn fwy hygyrch i ystod ehangach o ddysgwyr, gan ganiatáu iddynt barhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau iaith drwy astudio llenyddiaeth hyd at 16 oed.

Mae’r dull hwn wedi’i gynllunio i ddarparu profiad dysgu mwy gafaelgar, lle mae dysgwyr yn archwilio pa mor grymus y gall iaith fod drwy amryw o destunau a chyd-destunau llenyddol. Bydd dysgwyr nid yn unig yn datblygu eu geirfa, eu gramadeg a’u sgiliau cyfathrebu, ond hefyd yn dod yn feddylwyr beirniadol ac yn siaradwyr Cymraeg hyderus a naturiol, sydd yn gallu mynegi eu hunain amrywiaeth o gyd-destunau.

Strwythur cymhwyster unedol

Yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru, mae’r cymhwyster dwyradd wedi’i ddylunio’n gwrs astudio uchelgeisiol ac addas i’r mwyafrif o ddysgwyr, tra bod y cymhwyster gradd unigol yn cynnig llwybr amgen, mwy hygyrch i ddysgwyr a allai elwa o ganolbwyntio ar lai o gynnwys dros gyfnod y cwrs. Fodd bynnag, mae i’r ddau gymhwyster gynnwys o’r un lefel o her ac maen nhw’n cefnogi dilyniant i astudio’r pwnc hwn yn ymhellach.

Mae hwn yn gymhwyster unedol, sy’n golygu y gall dysgwyr sefyll rhai o’r unedau yn eu blwyddyn gyntaf o astudio, yn hytrach na chwblhau’r holl unedau ar ddiwedd Blwyddyn 11. Mae’r dull asesu cam-wrth-gam hwn yn golygu bod y llwyth asesu’n cael ei ledaenu, gan wneud y cymhwyster yn hylaw i ddysgwyr ac i ganolfannau  . Yn ogystal, mae unedau cyffredin rhwng y cymhwyster gradd unigol a’r cymhwyster dwyradd, gan ganiatáu i ganolfannau ddatblygu sgiliau a gwybodaeth dysgwyr a gwneud penderfyniadau effeithiol am y llwybr cymhwyster mwyaf addas cyn iddynt ddechrau Blwyddyn 11.

Mwy o hyblygrwydd

Mae’r cymhwyster newydd yn cynnig cyfleoedd i ganolfannau deilwra’r dysgu a’r addysgu i weddu orau i’w dysgwyr drwy gynnig mwy o hyblygrwydd a dewis o ran testunau.

Mae Uned 3 yn caniatáu i ganolfannau ddewis beirdd a cherddi a fydd yn annog dysgwyr i archwilio thema ‘agweddau’. Mae gan ganolfannau y rhyddid i ddewis cerddi a/neu feirdd gwahanol ar gyfer grwpiau gwahanol o ddysgwyr, yn ôl eu diddordebau neu eu hanghenion. Mae’r rhyddid  a gynigir yma wedi’i gynllunio i wneud y cymhwyster yn fwy gafaelgar drwy ganiatáu i ddysgwyr ganolbwyntio ar y pynciau a’r themâu sy’n berthnasol iddyn nhw.

Datblygu ymdeimlad o gynefin

Mae Cwricwlwm i Gymru yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu ymdeimlad o gynefin ymhlith dysgwyr. Yn Uned 2, bydd dysgwyr yn astudio testun gweledol o’u dewis ac yn trafod sut mae’r testun yn datblygu ac yn cyfleu ymdeimlad o hunaniaeth naill ai mewn cyd-destun lleol neu mewn cyd-destunau Cymreig ehangach. Gall canolfannau archwilio eu cynefin lleol eu hunain neu ddewis ymdrin â, a dysgu am, ‘hunaniaethau’ gwahanol yng Nghymru, gan ganiatáu i ddysgwyr ystyried, neu hyd yn oed ailystyried, eu dealltwriaeth eu hunain o Gymru neu Gymreictod.

Amrywiaeth ehangach o ddulliau asesu

Mae gan y cymhwyster gyfran uwch o asesu di-arholiad. Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy asesiadau di-arholiad yn Unedau 2 a 3 yn y cymhwyster gradd unigol a’r cymhwyster dwyradd, ac yn Uned 5 yn y cymhwyster dwyradd. Mae hyn yn caniatáu am ystod ehangach o ddulliau asesu, gan gynnwys tasgau llefaru unigol a grŵp, wedi’u cynllunio i ddatblygu ac asesu sgiliau siarad dysgwyr yn y Gymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau perthnasol a gafaelgar, llenyddol ac anllenyddol.

Mae hyn hefyd yn cefnogi hyblygrwydd, dewis a llesiant dysgwyr, gan alluogi ysgolion i wneud dewisiadau sy’n adlewyrchu eu cwricwlwm a’u dysgwyr eu hunain.

TGAU Craidd Cymraeg 

Mae’r cymhwyster newydd hwn ar gyfer dysgwyr sy’n cael eu haddysgu mewn ysgolion Categori 1 (ysgolion cyfrwng Saesneg) yn adeiladu ar gryfderau’r diwygiadau diweddar i’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith. Mae hefyd yn anelu at ddatblygu dysgwyr sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn ddigymell mewn amrywiaeth o gyd-destunau bob dydd. Mae’n parhau i roi pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando, gyda thasgau llafar yn cyfrif am 50% o’r cymhwyster cyfan.  O fewn yr asesiadau hyn, caiff dysgwyr gyfleoedd i ddatblygu eu gallu i ddeall, i ymateb ac i gyfathrebu â’i gilydd mewn cyd-destunau dilys ac ystyrlon.

Er mwyn cefnogi Cwricwlwm i Gymru, mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio i gynnwys llenyddiaeth am y tro cyntaf, a bydd dysgwyr yn astudio dwy stori fer a dwy gerdd. Mae hyn yn sicrhau y caiff pob dysgwr yng Nghymru gyfle i ymgysylltu â’u treftadaeth lenyddol a diwylliannol Gymraeg, ni waeth beth fo’u lleoliad addysgol.

Yn ystod y cam dylunio, gwnaethom ni ystyried yr angen i ddysgwyr ymdrin ag ystod briodol o ffurfiau ysgrifenedig a llenyddol sy’n adlewyrchu natur amrywiol dinasyddiaeth Gymreig a’i diwylliannau. O ganlyniad, comisiynodd CBAC gerddi i sicrhau bod cyfleoedd gafaelgar a hygyrch ar gael i ddysgwyr archwilio themâu trawsgwricwlaidd megis Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac Amrywiaeth, wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd y dull newydd cyffrous hwn yn helpu gyda dilyniant i astudio ymhellach ar lefel UG a Safon Uwch.

Er mwyn hwyluso’r trefniadau i ganolfannau , bydd CBAC yn rhyddhau gwybodaeth wythnos gyntaf mis Mawrth, yn ystod blwyddyn yr arholiad , yn nodi pa destun gosod fydd yn cael ei arholi. Un testun gosod gaiff ei arholi bob blwyddyn.

Caiff dysgwyr hefyd y cyfle i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol megis trawsieithu, gan eu grymuso i weld perthnasedd a gwerth y Gymraeg yn gymdeithasol ac yn y byd gwaith.

Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol

Mae’r cymhwyster newydd sbon hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud cynnydd da gydag astudio’r cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd ac sydd yn barod i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg ymhellach mewn cyd-destunau dilys a pherthnasol. Mae’n adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth y mae’r cymhwyster TGAU Craidd Cymraeg yn eu datblygu, gan gynnwys dealltwriaeth o iaith a gramadeg. Gan ddarparu hyblygrwydd i ddysgwyr gwblhau dau asesiad di-arholiad, un mewn siarad a gwrando ac un mewn darllen ac ysgrifennu, y bwriad yw gwneud y cymhwyster yn fwy gafaelgar iddynt nhw. 

Yn y dasg siarad a gwrando, bydd dysgwyr yn cael cyfle i drafod pynciau cyfoes o ddiddordeb personol mewn pâr neu grŵp ac i ryngweithio ag arholwr allanol. Yn y dasg darllen ac ysgrifennu, bydd dysgwyr yn gallu dewis pwnc o ddiddordeb personol sy’n gysylltiedig â Cymraeg a fi, gan ganiatáu elfen o hyblygrwydd a dewis i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg nhw yn unol â’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Dilyniant i lefel UG a Safon Uwch

Mae’r cynnig newydd o ran cymwysterau Cymraeg wedi’i gynllunio i gefnogi dilyniant dysgwyr i’r cymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Cymraeg neu Cymraeg Craidd, a fydd ar gael o fis Medi 2027. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar gynigion dylunio ar gyfer y cymwysterau hyn.

Gallwch ddarllen mwy am y newidiadau cyffrous hyn yma.

Cefnogi canolfannau drwy’r newid

I sicrhau pontio didrafferth, mae CBAC eisoes wedi darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein i gefnogi cyflwyno’r fanyleb newydd. Bydd CBAC hefyd yn rhyddhau pecyn cynhwysfawr o adnoddau digidol dwyieithog yr haf hwn.

Gall athrawon ddal i fyny ar y diweddariadau diweddaraf drwy sesiynau briffio CBAC ar fanylebau’r cymwysterau Cymraeg, sydd ar gael yma.