Cymwysterau Cenedlaethol: TGAU gwneud-i-Gymru yn cyrraedd ystafelloedd dosbarth Cymru
Ein Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Diwygio, Jo Richards, yn edrych yn ôl ar saith mlynedd o gydweithio i sefydlu cymwysterau 14–16 newydd sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, ac sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer Cymru.

Mae athrawon ledled Cymru wedi dechrau cyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol cyntaf, carreg filltir bwysig yn y gwaith o ddiwygio addysg disgyblion 14 i 16 oed.
Fe wnaeth cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru sbarduno’r gwaith o drawsnewid cymwysterau dysgwyr. Mae dysgu ac addysgu wedi newid, ac mae cymwysterau hefyd yn newid.
Cwricwlwm dan arweiniad athrawon
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn wyriad sylweddol oddi wrth y cwricwlwm cenedlaethol blaenorol o ran sut mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau wedi'u strwythuro a'u trefnu. Un peth pwysig yw bod y cwricwlwm bellach yn rhoi llawer mwy o ryddid i ysgolion ac i golegau o ran sut maen nhw’n cynllunio ac yn cyflwyno eu cwricwla eu hunain.
Unwaith y bydd yr holl gymwysterau newydd wedi'u cyflwyno, rhwng nawr a Medi 2027, bydd mwy o gymwysterau gwneud-i-Gymru cymeradwy ar gael mewn mwy o bynciau nag erioed, yn rhoi llawer mwy o ddewis i ysgolion, colegau a dysgwyr o ran y cynnig cymeradwy gwneud-i-Gymru
Mae'r cymwysterau newydd wedi'u cynllunio i adlewyrchu pwysigrwydd technolegau digidol yn y cwricwlwm ac i roi cyfleoedd i ysgolion a cholegau ddylunio profiadau dysgu i fodloni anghenion eu myfyrwyr, ac sydd â chysylltiad â'u cymuned leol.
Diwygio cymwysterau gydag addysgwyr Cymru
Yn 2018, pan gychwynnon ar ein taith i gyflwyno cyfres newydd sbon o gymwysterau cynhwysol a chydlynol, roeddem am wneud hynny ar y cyd ag athrawon.
Fe wnaethon sefydlu dros 30 o weithgorau pwnc-benodol, yn cynnwys athrawon pwnc ac arweinwyr o bob rhan o'r proffesiwn. Fe wnaethon nhw rannu eu harbenigedd a helpu i fireinio sut roedden ni’n meddwl, gan ddarparu'r safbwyntiau a'r dystiolaeth i’n helpu i sefydlu set gychwynnol o egwyddorion cyfarwyddol a phenderfynu pa bynciau ac unedau ddylai fod ar gael o fewn y cymwysterau TGAU, TAAU, Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau.
Roedd llais yr addysgwr i’w glywed yn glir yn ein hymgynghoriadau, gyda mwy na 75% o'r ymatebion yn dod gan weithwyr addysg proffesiynol. Fe wnaethon ni hefyd gysylltu â miloedd o weithwyr proffesiynol eraill gyda’n grwpiau cyfeirio, ein gweminarau a’n gweithgareddau wyneb yn wyneb. Bu hefyd ymchwil helaeth gyda sefydliadau addysg bellach ac uwch, Llywodraeth Cymru a chyrff llywodraethol eraill, cyrff dyfarnu, cyflogwyr a grwpiau cynrychioliadol.
Bu mewnbwn ac adborth yr athrawon yn amhrisiadwy wrth i ni geisio sicrhau bod y cymwysterau newydd yn adlewyrchu gwir natur yr ystafell ddosbarth, eu bod yn addas i'r pwrpas, yn creu llwybrau at lwyddiant, ac yn paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd, addysg bellach, a gwaith.
Sicrhau mai’r dysgwyr sydd wrth wraidd y gwaith o ddiwygio cymwysterau
Mae pobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn rhan hanfodol o lunio'r cymwysterau newydd hyn hefyd.
Mae aelodau o'n panel dysgwyr wedi sicrhau bod lleisiau eu cyfoedion i’w clywed trwy gydol y broses, ac fe gawson ni adborth adeiladol ar gynigion yn ogystal â dealltwriaeth o'r mathau o sgiliau a phrofiadau yr hoffen nhw eu cael yn yr ysgol.
Fe wnaethon ni gynnal gweithdai a grwpiau ffocws ledled Cymru, a chyflwyno arolwg pwrpasol i dros 1,200 o ddysgwyr o ysgolion cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd prif ffrwd, ysgolion anghenion addysgol arbennig, colegau addysg bellach, unedau cyfeirio disgyblion, dysgwyr cartref, a mwy.
Mae mewnbwn a phrofiadau dysgwyr yn bwysig i ni ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn rhai o'n penderfyniadau ni.
Mae'r cymwysterau newydd yn mynd y tu hwnt i ddulliau asesu traddodiadol ac yn cynnwys asesiadau di-arholiad, gwaith portffolio, perfformiadau ac asesiadau ymarferol a gwerthuso parhaus, yn ogystal â ffurfiau eraill o asesu digidol.
Beth sydd ar y gweill?
Mae dwy don arall o Gymwysterau Cenedlaethol yn dod ym mis Medi 2026 a Medi 2027.
Y flwyddyn nesaf, bydd yr ail don o gymwysterau TGAU a chymwysterau Lefel 2 yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion, a bydd CBAC yn cyhoeddi'r manylebau terfynol ar gyfer y pynciau hyn ar ddiwedd mis Medi 2025.
Rydyn ni hefyd yn cwblhau ein gwaith o gymeradwyo’r cyrff dyfarnu sy'n datblygu cymwysterau TAAU, Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau i’w cyflwyno ym mis Medi 2027, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i'ch hysbysu am y gwaith hwnnw.
Wrth i Gymru ddechrau ar y bennod newydd hon yn addysg, bydd y Cymwysterau Cenedlaethol hyn yn cynnig amrywiaeth o lwybrau i alluogi dysgwyr i ddangos eu cryfderau ac i symud ymlaen i addysg bellach neu waith.