Cymwysterau Cymraeg sy’n adlewyrchu Cymru heddiw – a’r dyfodol
Heidi Brown, Uwch Reolwr Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru, sy’n arwain ar ddiwygio cymwysterau UG a Safon Uwch yn y Gymraeg sy’n trafod dyfodol Cymwysterau Cymraeg newydd yn y blog yma.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb – ac mae’n hanfodol bod y cymwysterau rydym yn eu cynnig yn adlewyrchu hynny. Dyna pam ein bod yn ymgynghori ar ofynion dylunio ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd.
Mae’r cymwysterau hyn yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth fydd yn eu galluogi i wneud gwahaniaeth – yn y gweithle, yn y gymuned, ac yn y gymdeithas ehangach. Byddant yn cefnogi pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn ddyddiol, ac i gyfrannu at Gymru ddwyieithog nawr ac yn y dyfodol.
Gwrando er mwyn gwella
Rydym wedi gwrando ar athrawon, dysgwyr a phartneriaid eraill sydd â rôl allweddol yn natblygiad addysg Gymraeg a chymwysterau. Roedd y neges yn glir: mae profiad dysgwyr o’r Gymraeg yn unigryw ac amrywiol. Mae’n bwysig bod y cymwysterau sydd ar gael yn berthnasol, yn ysbrydoledig ac yn afaelgar a hygyrch i bawb.
Beth yw’r newidiadau cynigiedig?
- cynnwys mwy cyfoes sy’n adlewyrchu diddordebau, hunaniaethau a phrofiadau amrwyiol dysgwyr ledled Cymru heddiw
- ffocws gryfach ar gefnogi dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfarthrebu hyderus ac ymerferol
- mwy o gyd-destunau dysgu sy’n dangos sut y gall dysgwyr gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog, sydd yn datblygu dealltwriaeth well o fyw yng Nghymru heddiw
- cyfleoedd i ddatblygu sgiliau Cymraeg proffesiynol fydd yn cefnogi’r nod o sicrhau gweithlu medrus yn y Gymraeg yn y dyfodol
- cynnwys ac asesiadau sydd yn hylaw i ddysgwyr a’u hathrawon
Beth fyddai’n aros yr un fath, yn ôl ein cynigion?
Rydym yn cynnig cadw’r hyn sy’n gweithio’n dda – gan gynnwys:
- canolbwyntio ar asesu sgiliau llafar mewn cyd-destunau penodol, gan gynnwys cyd-destunau llenyddol
- dulliau asesu amrywiol sy’n cefnogi pob dysgwr i gyflawni a sy’n cynnig profiadau asesu dilys
- cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddwys o lenyddiaeth ac etifeddiaeth gyfoethog y Gymraeg
Cymwysterau sy’n berthnasol a gafaelgar
Bydd y cymwysterau newydd rydym yn eu cynnig ac yn ymgynghori arnynt yn helpu dysgwyr i weld sut mae’r hyn maen nhw’n ei astudio yn berthnasol i’w bywydau – boed hynny er mwyn paratoi ar gyfer astudio pellach, y byd gwaith, neu gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas.
Eich cyfle i ddweud eich dweud
Mae’r ymgynghoriad bellach ar agor ar ein platfform Dweud Eich Dweud. Rydym eisiau clywed eich barn – boed chi’n athro, dysgwr, rhiant, gofalwr neuunrhywun sydd â diddordeb mewn Cymraeg fel pwnc.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 12 Medi 2025.