Dysgwyr ledled Cymru yn sefyll arholiadau TGAU fis yma
Mae heddiw yn nodi dechrau cyfres arholiadau TGAU mis Tachwedd ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll papurau mewn Saesneg, Mathemateg – Rhifedd, Mathemateg a Chymraeg.
Yn Cymwysterau Cymru, rydym yn goruchwylio gwaith CBAC o gyflwyno a dyfarnu'r gyfres arholiadau er mwyn sicrhau bod ffiniau graddau yn cael eu gosod yn briodol a bod safonau'n cael eu cynnal o'r cyfresi blaenorol.
Fel gyda phob sesiwn arholiadau, gall ffiniau graddau newid i ystyried amrywiadau yn anhawster yr arholiad, gan helpu i sicrhau tegwch i bob dysgwr.
Dyddiadau allweddol i'w nodi:
-
Dydd Iau 6 Tachwedd 2025 - Bydd data cofrestru ar gyfer cyfres mis Tachwedd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cymwysterau Cymru
-
Dydd Iau 8 Ionawr 2026 – Bydd dysgwyr yn derbyn canlyniadau ar gyfer arholiadau a safwyd y mis hwn
Cymorth i ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau
Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i ddatblygu'r hwb cynnwys Lefel Nesa. Mae'r llwyfan hwn yn cynnig deunyddiau adolygu ac arweiniad i helpu myfyrwyr i deimlo'n hyderus ac yn barod ar gyfer eu hasesiadau.
Mae gwybodaeth a chefnogaeth hefyd yn ein dogfen Help Llaw i Ddysgwyr ar Arholiadau ac Asesiadau