NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

08.01.26

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Dysgwyr yng Nghymru yn derbyn canlyniadau TGAU ar gyfer arholiadau mis Tachwedd

Llongyfarchiadau i ddysgwyr ledled Cymru sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw ar gyfer arholiadau a safwyd ym mis Tachwedd 2025.

Roedd cyfres arholiadau mis Tachwedd yn cynnwys pedwar pwnc TGAU: 

  • Saesneg Iaith
  • Mathemateg
  • Mathemateg – Rhifedd
  • Cymraeg Iaith 

Cafwyd cyfanswm o 26,300 o gofrestriadau ym mis Tachwedd 2025, i fyny 9.9% o 23,930 ym mis Tachwedd 2024. Cynyddodd nifer y cofrestriadau ar gyfer yr holl bynciau sydd ar gael yng nghyfres arholiadau mis Tachwedd.  

Mathemateg – Rhifedd yw’r pwnc gyda’r nifer fwyaf o gofrestriadau ym mis Tachwedd o hyd, sef 52.8% o gyfanswm y cofrestriadau yn 2025 o’i gymharu â 53.5% yn 2024.  

Ym mis Tachwedd 2025, roedd 88.0% o gofrestriadau TGAU ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11, cyfran debyg i 2024.  

Mae'r ystadegau cofrestru llawn ar gael yn ein hadroddiad swyddogol. Cofrestriadau TGAU yng Nghymru: Cofrestriadau dros dro TGAU mis Tachwedd 2025 ar gyfer Cymru 

Gallwch chi weld canlyniadau cyfres arholiadau Tachwedd 2025 ar wefan CBAC. Mae trosolwg o'r gyfres arholiadau hefyd ar wefan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ), sy'n cynnwys y canlyniadau ar gyfer aelodau JCQ gyda’i gilydd: AQA, CCEA, City & Guilds, Eduqas, OCR, NCFE, Pearson a CBAC.