BLOG

Cyhoeddwyd:

23.06.25

ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Edrych ar wahanol ffyrdd o ddefnyddio nodiant mathemategol mewn asesiadau digidol

Mae asesiadau digidol yn cynnig cyfleodd i ddysgwyr ddefnyddio dulliau newydd i ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, a’u gallu. Ond mewn pynciau sy’n ddibynnol iawn ar nodiant, fel mathemateg, mae rhai heriau unigryw sydd angen eu hystyried.

Er bod y defnydd o brosesydd geiriau bellach yn rhan gyfarwydd o fywydau pob dydd llawer o’n dysgwyr, daw gwahaniaethau i’r fei pan fyddwn ni’n dechrau cymharu sut caiff cysyniadau mathemategol eu mynegi ar sgrin o’i gymharu ag â llaw. Dywedodd y rhai a fu yn ein gweithdai fod dulliau digidol o fynegi mathemateg dal yn weddol newydd, a bu hynny’n sbardun i ni wneud rhagor o ymchwil. 

Rydyn ni wedi cydweithio â rhanddeiliaid er mwyn gwella ein dealltwriaeth o sut gellir asesu mathemateg ar y sgrin mewn ffordd ddilys, a pha fanteision allai dulliau digidol eu cynnig. Buom yn cydweithio â Grasple, sef platfform sy’n arbenigo mewn dysgu ac asesu cystrawennau mathemategol, ynghyd â thri sefydliad addysg bellach (AB) er mwyn gweld y platfform yn cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd dosbarth. Mae’r blog hwn yn rhannu sylwadau gan athrawon a dysgwyr, yn myfyrio ar ba mor afaelgar oedd y platfform i ddysgwyr, yn trafod profiad defnyddwyr, a pha mor ymarferol yw’r defnydd o asesiadau ar y sgrin mewn mathemateg.

Profiad y dysgwyr: cydbwyso’r cyfarwydd a’r ymarferol

Mae adborth gan ddysgwyr wedi datgelu teimladau cymysg, gyda chwilfrydedd a pheth petruster wrth ddefnyddio platfform digidol yn y pwnc hwn. Er bod llawer o’r dysgwyr yn gwerthfawrogi newydd-deb y platfform ar sgrin, ynghyd â’r adborth uniongyrchol a gawsant, roedd rhai o’r farn bod y platfform yn arafu eu prosesau datrys problemau. Roedd yn well gan lawer o ddefnyddwyr wneud cyfrifiadau hir neu gymhleth ar bapur, gan fod dysgwyr yn aml yn tueddu i ddefnyddio’r papur i weithio trwy’r datrysiad cyn cyflwyno’r ateb yn ddigidol. Hefyd, bu’n rhaid i lawer o ddysgwyr dreulio amser yn ymgyfarwyddo â’r system ddigidol cyn iddynt allu cyflwyno hafaliadau a’u hatebion yn gywir.

Un o’r pethau allweddol a ddysgwyd oedd bod rhai dysgwyr yn ffafrio cael elfen o gyffyrddiad yn eu prosesau datrys problemau, a gwelodd athrawon bod dull hybrid (sy’n caniatáu i ddysgwyr weithio ar bapur cyn cyflwyno ateb digidol) yn hwyluso’r newid ac yn cynnal diddordeb. Gwelwyd bod y dull cymysg hwn yn hynod effeithiol mewn asesiadau lle’r oedd angen gwneud camau a chyfrifiadau manwl, pethau sy’n anodd eu gwneud yn ddigidol. Awgrymodd athrawon y gallai ymgorffori offer digidol, fel tabledi graffeg a phensiliau digidol, fod o fudd wrth geisio pontio’r bwlch rhwng datrys problemau ar bapur a chyflwyno atebion yn ddigidol. 

Paramedru: ateb sy’n arbed amser

Mae paramedru (parametarisation) yn nodwedd o fewn Grasple sy’n trawsnewid cwestiynau unigol i greu sawl amrywiad, a hynny trwy addasu’r gwerthoedd rhifiadol heb newid y sgiliau sydd dan sylw. Gallai hyn leihau’r amser datblygu ac ehangu’r ystod o eitemau y mae dysgwyr yn eu gweld. Dywedodd athrawon fod cyfuno hyn gyda marcio awtomatig yn ysgafnhau eu llwyth gwaith, ac roeddent yn gwerthfawrogi’r adborth uniongyrchol a roddai i ddysgwyr.

Croesawu adborth addasol

Cafodd nodwedd adborth addasol Grasple, sy’n rhoi cyngor penodol yn seiliedig ar ymateb dysgwr i gwestiwn, ymateb cadarnhaol bob tro y cafodd ei ddefnyddio. Dylid nodi nad oedd modd ei ddefnyddio trwy’r adeg oherwydd bod athrawon angen ysgrifennu a rhaglennu’r adborth ymlaen llaw, a’i fod yn gysylltiedig â’r camgymeriadau cyffredin y maen nhw’n eu rhagweld. 

Gwelwyd bod gallu’r nodwedd i roi awgrymiadau priodol yn beth cadarnhaol i ddysgwyr, a’i fod yn eu hannog i gywiro pethau ar unwaith ac yn meithrin gwell dealltwriaeth o’r sgiliau a dargedir. 

Fodd bynnag, gwelwyd bod cyfyngiadau i’r system adborth pan sonnir am ymatebion mathemategol cymhleth, pan fo amrywiaeth ym mhatrymau’r camgymeriadau yn ei gwneud yn anodd rhagweld pob camgymeriad posibl. Awgrymodd athrawon y gallai datrysiad sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) wella’r adborth trwy ragweld ystod ehangach o atebion.

Profiadau o ddefnyddio profi addasol gyda rhesymeg amodol

Agwedd bwerus arall ar y platfform yw ei resymeg amodol, sy'n addasu asesiadau yn seiliedig ar ymatebion dysgwyr: mae atebion cywir yn arwain at gwestiynau mwy heriol, tra bod ymatebion anghywir yn arwain at roi cefnogaeth ychwanegol i feithrin hyder dysgwyr. Trwy gyfuno hyn â pharamedru ac adborth addasol wedi’i raglennu gan athrawon, mae’r platfform yn galluogi i addysg wahaniaethol ddigwydd mewn amser real, gan gefnogi athrawon i fodloni anghenion amrywiaeth o ddysgwyr a chan alluogi llwybrau dysgu mwy unigryw.

Symud ymlaen: cydbwyso arloesedd, dilysrwydd a hydrinedd  

Fe wnaeth y gwaith hwn arddangos yr addewid a’r cymhlethdodau y mae asesu digidol mewn pynciau sy'n seiliedig ar nodiant yn eu cynnig. 

Roedd athrawon a dysgwyr oll yn hoff o newydd-deb y fformat ar y sgrin, a hynny mae’n debyg gan ei fod yn wahanol iawn i sut gwneir gwaith y pwnc hwn yn yr ystafell ddosbarth fel arfer. Roedd yr adborth yn dangos bod y defnyddwyr yn hoff o nodweddion fel yr adborth addasol, rhesymeg amodol, a pharamedru. 

Fodd bynnag, er mwyn cael y gorau o’r nodweddion hyn, roedd angen amser i ymgyfarwyddo ar athrawon, o safbwynt datblygiad, ac ar ddysgwyr, er mwyn ymgysylltu â’r meddalwedd i wneud ymarferion. Os cânt ddigon o amser i ymgyfarwyddo, mae platfformau digidol yn cynnig addewid o fuddion ystyrlon i’r ffordd y mae mathemateg yn cael ei gyflwyno a’i asesu.  

Wrth i ddarparwyr dysgu barhau i ddatblygu eu dulliau digidol o addysgu, ac wrth i’r ystod o galedwedd a meddalwedd a’u nodweddion barhau i esblygu, mae'r ffordd y cyflwynir mathemateg yn debygol o esblygu hefyd 

Rydyn ni’n annog darparwyr i sôn am eu hasesiadau ffurfiannol digidol, mewn mathemateg neu unrhyw bwnc arall, trwy ddefnyddio ein platfform Dweud eich Dweud  – rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.