Ewch ati i Ddweud eich Dweud a helpu i siapio dyfodol cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Heddiw, rydym yn lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ddylunio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru newydd.
Mae'r cymwysterau rydym yn bwriadu eu diwygio yn cwmpasu pynciau cymhwyso rhif, cyfathrebu a llythrennedd digidol. Maen nhw wedi'u dylunio i'w defnyddio ar gyrsiau ôl-16 mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos y sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Yn 2024, dyfarnwyd mwy na 28,000 o dystysgrifau Sgiliau Hanfodol Cymru i ddysgwyr ledled Cymru fel rhan o brentisiaethau, rhaglenni addysg bellach ôl-16 a dysgu oedolion yn y gymuned.
Y llynedd, cyhoeddwyd ein bwriad i ddiwygio tri maes pwnc: cymhwyso rhif, cyfathrebu a llythrennedd digidol.
Daeth hynny ar ôl adolygiad manwl o'r cymwysterau lle gwnaethom gynnal ymchwil helaeth a siarad â dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr – ac roedd y mwyafrif o blaid diwygio. Fe wnaethon nhw roi adborth am ba mor gyfredol a hydrin yw'r cymwysterau a'u hasesiadau.
Ers hynny, rydym wedi parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid a heddiw rydym yn lansio arolwg ar-lein i gael adborth pwysig ar ein cynigion.
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru hefyd yn cynnwys cyflogadwyedd, ac nid ydym yn bwriadu ei ddiwygio. Mae ein diwygiadau yn canolbwyntio ar y pynciau sydd wedi'u cynnwys yn y gofynion craidd ar gyfer fframweithiau prentisiaethau. Gan nad ydym yn diwygio'r cymwysterau cyflogadwyedd, gall cyrff dyfarnu ddewis parhau i gynnig y rhain os ydynt yn dymuno gwneud.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Cymwysterau, Oliver Stacey: "Mae angen ystod eang o safbwyntiau arnom i'n helpu i ddylunio cyfres o gymwysterau newydd. Rydym yn gofyn i ddarlithwyr, athrawon, staff colegau, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a dysgwyr lenwi ein harolwg.
“Rydym yn ymgynghori ar gynigion sy'n ymwneud â’r canlynol:
· pwrpas a nodau'r cymwysterau
· cynnwys (gwybodaeth a sgiliau)
· asesu
· teitlau’r cymwysterau
"Rydym yn bwriadu dileu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 3 ym mhob un o'r tri phwnc ac ar lefel Mynediad 1 a 2 mewn Llythrennedd Digidol. Ar gyfer pob pwnc rydym yn gofyn cwestiwn yn yr arolwg am effeithiau dileu'r cymwysterau hyn.
"Ar gyfer pob cynnig, rydym yn gofyn i ba raddau y mae partïon â diddordeb yn cytuno neu'n anghytuno ac yn cynnig cyfle iddynt fynegi eu barn.
"Mae'r cymwysterau hyn yn helpu dysgwyr mewn bywyd a gwaith, felly rydym yn annog pobl i ddweud eu dweud ac i siapio eu dyfodol. Byddwn yn dadansoddi ac yn ystyried yr holl ymatebion a dderbynnir ac yn cyhoeddi adroddiad penderfyniadau a chrynodeb o'r ymatebion yn nhymor yr haf 2026."
Mae'r ymgynghoriad ar-lein yn cau ar 5 Chwefror. Gallwch weld yr arolwg yma