Cyfle i Ddweud Eich Dweud ar arholiadau Haf 2025
Mae arholiadau'n dechrau ledled Cymru yr wythnos hon, ac mae arolwg blynyddol Cymwysterau Cymru bellach ar agor i chi rannu adborth ar gyfres arholiadau’r haf.
Rydyn ni’n gwahodd dysgwyr, addysgwyr, rhieni, gofalwyr, a phartïon eraill sydd â diddordeb, i rannu eu barn am arholiadau TGAU, UG, Safon Uwch a Lefel 2/3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yr haf yma.
Bob blwyddyn, rydyn ni’n cynnal arolwg Dweud Eich Dweud ar Arholiadau'r Haf i gasglu adborth fel rhan o'n rôl i fonitro arholiadau yng Nghymru.
Mae'r adborth rydych chi'n ei roi, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, yn bwysig iawn i ni – mae'n caniatáu inni nodi unrhyw themâu allweddol sy'n cael eu codi yn ystod y gyfres arholiadau ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar eich profiad o'r papurau arholiad.
Drwy wrando ar brofiadau dysgwyr, gallwn nodi themâu sy’n codi dro ar ôl tro y gallwn eu trafod â chyrff dyfarnu a chasglu gwybodaeth i lywio ein gwaith monitro yn y dyfodol.
Gellir cwblhau'r arolwg byr yn Gymraeg neu Saesneg, ac mae'n ymdrin â phynciau fel:
- a oeddech chi'n teimlo bod y papur(au) arholiad yn ymdrin â'r pynciau a astudiwyd
- lefel yr anhawster (pa mor hawdd neu anodd oedd y papur)
- a oeddech chi'n teimlo bod digon o amser i gwblhau'r cwestiynau
- unrhyw adborth arall
Mae'r arolwg ar agor trwy gydol y gyfres arholiadau a bydd yn cau ychydig wythnosau ar ôl yr arholiadau terfynol, ddydd Llun 7 Gorffennaf.
Byddwn yn monitro ymatebion yr arolwg trwy gydol y gyfres ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion yn ddiweddarach eleni, ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.