BLOG

Cyhoeddwyd:

14.07.25

ADDYSGWYR
DYSGWYR
CANOLFANNAU

Pennod newydd feiddgar ar gyfer TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Mae Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau, yn archwilio’r prif newidiadau i'r TGAU newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a’r hyn maen nhw’n ei olygu i ddysgwyr a’u hathrawon.

O fis Medi 2025, bydd dysgwyr yng Nghymru yn cychwyn pennod newydd o astudio iaith a llenyddiaeth Saesneg o fewn maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Mae’r newidiadau hyn yn rhan o benderfyniad i alinio cymwysterau TGAU â Chwricwlwm   i Gymru, ac i symud i ffwrdd o’r gwahaniaethau traddodiadol rhwng astudio’r iaith Saesneg ac astudio llenyddiaeth Saesneg.

Beth sydd wedi newid yn y cymhwyster TGAU iaith a llenyddiaeth Saesneg newydd?

Bu newidiadau sylweddol i’r cymhwyster TGAU i adlewyrchu nodau’r maes dysgu a phrofiad hwn. Mae rhai’n strwythurol, tra bod eraill yn ymwneud â chynnwys ac asesu. Daeth y newidiadau hyn yn sgil adborth ymgynghori ac ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid.

Dull integredig 

Mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn annog dysgu cydgysylltiedig gyda ffocws ar drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth ar draws ieithoedd a chyd-destunau. Mae’r disgwyliad i drin y ‘datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ mewn modd cyfannol yn gwneud hyn yn glir. I alinio â’r disgwyliad hwn, ac i alluogi pob dysgwr i ymgysylltu â’r pedwar datganiad yn gyfannol hyd at 16 oed, rydym yn disodli’r cymwysterau TGAU iaith Saesneg a TGAU llenyddiaeth Saesneg presennol gyda chymhwyster TGAU integredig mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg.

Mae cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg newydd CBAC yn cefnogi’r nodau hyn drwy integreiddio iaith a llenyddiaeth mewn ffyrdd dilys ac ystyrlon.

Drwy integreiddio iaith a llenyddiaeth, gall llenyddiaeth ddod yn fwy hygyrch i ystod ehangach o ddysgwyr. Bydd dysgu am lenyddiaeth a thrwyddi hi yn cyfrannu at ddysgu am iaith, gan gyfoethogi profiad dysgwyr a hybu creadigrwydd.

Mae’r dull hwn yn bwriadu cynnig profiad dysgu mwy cydlynol, gafaelgar ac ystyrlon, lle mae dysgwyr yn archwilio pa mor grymus y gall iaith fod drwy destunau llenyddol cyfoethog a chyd-destunau’r byd go iawn. Bydd dysgwyr nid yn unig yn datblygu eu geirfa, eu gramadeg a’u sgiliau cyfathrebu, ond hefyd yn dod yn feddylwyr beirniadol a chyfathrebwyr huawdl, sydd yn gallu mynegi eu hunain yn glir ac yn hyderus.

Mae’r cwrs wedi’i drefnu’n chwe uned thematig, sydd yn ysgogi dysgwyr i archwilio materion y byd go iawn drwy ddatblygu eu sgiliau ieithyddol a llenyddol ar yr un pryd.

Mae’r strwythur hwn yn meithrin dysgu dwfn, myfyriol ac yn cynnig fframwaith clir ar gyfer addysgu ac asesu, gan gefnogi dilyniant drwy gydol y cwrs.

Llwybrau uchelgeisiol a chynhwysol

Mae i’r cymhwyster TGAU newydd ddau faint, sef cymhwyster dwyradd a chymhwyster gradd unigol.

Yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru, mae’r cymhwyster dwyradd wedi’i ddylunio’n gwrs astudio uchelgeisiol ac addas i’r mwyafrif o ddysgwyr, tra bod y cymhwyster gradd unigol yn cynnig llwybr amgen, mwy hygyrch i ddysgwyr a allai elwa o ganolbwyntio ar lai o gynnwys dros gyfnod y cwrs. Fodd bynnag, mae i’r ddau gymhwyster gynnwys o’r un lefel o her ac maen nhw’n cefnogi dilyniant i astudio’r pwnc hwn yn ymhellach.
I gefnogi’r dysgu a’r addysgu, mae’r cymwysterau wedi’u dylunio gyda strwythur ‘wedi’u nythu yn rhannol’, sy’n golygu bod unedau cyffredin rhwng y cymhwyster gradd unigol a’r cymhwyster dwyradd. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod gan ddysgwyr amser i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth cyn bod rhaid  gwneud penderfyniadau ar y llwybr gorau iddynt.

Cwricwlwm eang, cynhwysol ac ysbrydoledig

Mae’r cymhwyster newydd yn dathlu cynhwysiant, amrywiaeth a chynrychiolaeth, gan gynnwys ystod eang o leisiau llenyddol o Gymru a’r tu hwnt. Fel rhan o’r dysgu a’r addysgu sydd yn cefnogi asesu, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ymdrin â thestunau llenyddol ac anllenyddol sydd yn adlewyrchu diwylliannau, hunaniaethau a phrofiadau bywyd amrywiol, gan eu helpu i ddod yn fwy empathig, gwybodus ac ymwybodol yn ddiwylliannol.

I gefnogi'r nodau yma, bydd TGAU  Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn galluogi dysgwyr i ymgysylltu â gweithiau llenyddol cyfoes. Mae'r cymhwyster newydd yn parhau i ganolbwyntio mewn modd priodol ar dreftadaeth lenyddol, gan alluogi dysgwyr i gynyddu dealltwriaeth am ddiwylliant, pobl a hanes Cymru, yn ogystal â'r byd ehangach.

Mae cyflwyno antholeg ffeithiol yn annog dysgwyr i feddwl yn feirniadol, yn hyderus ac yn foesegol am ystod o themâu a materion o bwys yn y byd heddiw.

Hyblygrwydd a dewis

Mae cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg wedi’i gynllunio i gefnogi athrawon i wneud penderfyniadau sy’n cefnogi eu cwricwlwm lleol ac anghenion eu dysgwyr. Bydd modd i athrawon ddewis testunau priodol i’w dysgwyr o ystod gynhwysfawr o destunau a osodir gan y corff dyfarnu.

Mae cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn gymhwyster unedol, heb haenau, gydag arholiadau allanol ac asesiadau di-arholiad. Bwriad hyn yw cefnogi profiad dysgu ac asesu dilys a gafaelgar i bob dysgwr. Mae hefyd yn cefnogi dilyniant dros amser, gydag asesu hyblyg drwy gydol y cwrs i gefnogi ymgysylltiad a lles dysgwyr.

Cefnogi datblygiad sgiliau

Mae’r cymhwyster newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau llafar a chyfathrebu. Mae hyn i adlewyrchu beth mae cyflogwyr a darparwyr addysg uwch wedi’i ddweud wrthym ni am beth sydd ei angen ar ddysgwyr i gefnogi eu dilyniant. Mae’r cymhwyster hefyd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau annibynnol ac ymchwil, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen i’r ystod o gymwysterau UG a Safon Uwch sydd ar gael mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg.

Cefnogi canolfannau drwy’r newid

I sicrhau pontio didrafferth, mae CBAC eisoes wedi darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein i gefnogi cyflwyno’r fanyleb newydd. Bydd CBAC hefyd yn rhyddhau pecyn cynhwysfawr o adnoddau digidol yr haf hwn.

Bydd cyflwyniad y cymwysterau yma yn golygu goblygiadau i ddysgwyr sy'n eu hailsefyll o fis Medi 2027 ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r sector ôl-16 ar hyn.