Medi 2015 - Adolygiad o'r Sector
Rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2016, gwnaeth Cymwysterau Cymru gynnal rhaglen cyfathrebu ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys cyfweliadau a thrafodaethau gyda chyrff sector, darparwyr dysgu, cyflogwyr a dysgwyr, gan ofyn am eu sylwadau ar effeithiolrwydd y cymwysterau presennol a'r system gymwysterau yng Nghymru, a'u holi am fylchau ynddynt.
Cynhaliwyd dros 125 o gyfarfodydd gwahanol. Hefyd, cawsom dros 200 o ymatebion i'n hymgynghoriad ar-lein, a chlywsom farn mwy na 800 o ddysgwyr.
Gwnaethom gynnal dadansoddiad manwl o'r deg cymhwyster mwyaf poblogaidd a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru yn y sector hwn. Diben y dadansoddiad hwn oedd edrych ar fformat yr asesiadau, y systemau sicrhau ansawdd, y dystiolaeth roedd y dysgwyr yn ei darparu a'r ffordd yr oedd penderfyniadau asesu yn cael eu gwneud.
Gorffennaf 2016 - Adroddiad ar yr Adolygiad
Ym mis Gorffennaf 2016, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau a'n dyfarniadau ynghylch effeithiolrwydd y cymwysterau presennol, a'r system gymwysterau, ar gyfer y sector yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o gynigion, gan gynnwys:
- Datblygu cyfres newydd o gymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru i leihau cymhlethdod a chodi ansawdd, ac wrth wneud hynny:
- Datblygu dulliau cyfannol a chreadigol o asesu cymhwysedd dysgwyr wrth iddynt ymgymryd â chymwysterau;
- Darparu cyflwyniad i amrywiaeth eang o rolau yn y sector drwy ledu cwmpas y cymwysterau sydd ar gael i ddisgyblion rhwng 14 ac 16 oed;
- Lleihau achosion o ddyblygu ac ailadrodd rhwng cymwysterau ar lefelau gwahanol;
- Cymhwyso trefniadau sicrhau ansawdd yn gyson ac yn gadarn ledled Cymru;
- Sicrhau bod pob agwedd ar y cymwysterau newydd ar gael yn ddwyieithog;
- Cynyddu cynnwys pynciau allweddol, megis gofal dementia i'r rheini sy'n gweithio gyda phobl hŷn, neu chwarae i'r rheini sy'n darparu gofal plant.
- Gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael am rolau a chyfrifoldebau gwahanol pob corff o ran cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Medi 2016 - Ymgynghoriad
Yn dilyn yr adolygiad, gwnaethom lansio ymarfer ymgynghori i geisio barn ar gynigion i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfyngu pob cymhwyster newydd i ddim ond un fersiwn i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir gan arian cyhoeddus yng Nghymru.
Cafodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2016, ac maent ar gael yma.
Tachwedd 2016 - Cyhoeddi cynnig i gyfyngu ar gymwysterau
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, gwnaethom gyhoeddi ein bwriad i gyfyngu ar nifer o ddisgrifiadau o gymwysterau yn ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Mae'r rhain ar gael yn ein Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol.
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu'r cymwysterau newydd ewch i'r tudalennau am ddatblygu cymwysterau galwedigaethol.
Adolygiad Cyflym o Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Adroddiad
Rhwng Mawrth ac Ebrill 2022, cynhaliwyd 'adolygiad cyflym' o gymwysterau lefel 3 newydd yn y sector hwn. Mae'r ddogfen hon yn crynhoi canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys yr arfer da sydd wedi datblygu a'r heriau y mae canolfannau wedi eu profi wrth eu rhoi ar waith. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn rhoi diweddariad ar y camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau.
Meini Prawf Cymeradwyo
Mae ein diwygiadau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant wedi arwain at gyflwyno 23 o gymwysterau newydd. Mae'r gyfres hon yn cynnwys cymwysterau ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau ysgol, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn, sy'n pennu cynnwys pwnc a gofynion asesu ar eu cyfer. Y meini prawf a ddatblygwyd gennym yw:
TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
Safon Uwch ac UG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
Lefel 4 Lleoli Oedolion/ Cysylltu Bywydau
Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 4 Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
Yn dilyn diwedd y cyfyngiad ar gyfer rhai cymwysterau ar 31 Awst 2024, mae eu meini prawf cymeradwyo wedi cael eu hadolygu ym mis Ionawr 2025.
Dyma'r Meini prawf cymeradwyo sydd wedi eu hadolygu yn dilyn diwedd cyfyngiad:
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
Mai 2024 – Hysbysiad o gymwysterau ar ddiwedd y cyfyngiad
Yn dilyn ymarfer caffael cystadleuol, fe wnaethom ddyfarnu contract i CBAC a City & Guilds (y consortiwm) i ddatblygu a dyfarnu'r cymwysterau hyn. Cyflwynwyd y cymwysterau hyn rhwng Medi 2019 a Medi 2021.
Disgwylir i gyfyngiad y cymwysterau canlynol ddod i ben ar 31 Awst 2024:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Mae'r cyfyngiad wedi dod i ben ar gyfer y cymwysterau hyn ar 31 Awst 2024.
Mae diwedd y cyfyngiad yn golygu y gall cyrff dyfarnu eraill gyflwyno cymwysterau i'w cymeradwyo yn erbyn y meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig, gan sicrhau bod y cymwysterau'n gwbl ddwyieithog yn ogystal ag ymgysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru i geisio cael eu cynnwys ar y Fframwaith Cymwysterau.
Os ydych yn bwriadu datblygu cymwysterau cymeradwy i fodloni'r meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig, cysylltwch â Leanne.Hallett@qualifications.wales i drafod ymhellach. Mae sgwrs gynnar yn bwysig i gynorthwyo ein cynllunio o ran cymeradwyo, a chydlynu gydag anghenion busnes eraill.