Bwletin Chwarterol Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill: Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2026 i Gymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 37,040 o dystysgrifau yn chwarter 1 2026. Mae hyn yn ostyngiad o 1.5% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2025.
- Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, dyfarnwyd 280,025 o dystysgrifau, cynnydd o 3.0% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- O'i gymharu â Ch1 2025, gwelodd 8 o'r 15 sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch1 2026. Roedd y cynnydd mwyaf yn 'y Celfyddydau, y Cyfryngau a Chyhoeddi'.
- O'i gymharu â Ch1 2025, gwelodd 6 o'r 10 lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch1 2026. Cymwysterau Lefel 1 welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
Gwella'r ystadegau hyn
Mae Ofqual yn cynnal arolwg i gasglu barn ar yr ystadegau tystysgrifau chwarterol a gyhoeddir ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gadewch i ni wybod sut y gall yr ystadegau hyn ddiwallu eich anghenion orau drwy gwblhau'r arolwg.
Gallwch hefyd anfon e-bost atom ystadegau@cymwysterau.cymru gydag unrhyw adborth ar yr ystadegau hyn.
Datganiadau blaenorol
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2025 ar gyfer Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2025 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 ar gyfer Cymru | Cymwysterau Cymru
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru