Cyflwyniad
Mae'r holl bolisïau hyn yn gymwys i gymwysterau yn gyffredinol a'r system gymwysterau yng Nghymru. Mae rhain wedi eu nodi isod, neu gallwch chi gael mynediad at restr lawn ein polisïau yn yr Llawlyfr Polisi.
Gorfodi
Cymryd camau pan aiff pethau o chwith Mae hwn wedi'i anelu at gyrff dyfarnu cydnabyddedig ac aelodau o'r cyhoedd i'w galluogi i ddeall sut y gallem ddefnyddio ein pwerau gorfodi a chosbi.
Polisi capio ffioedd yn egluro o dan ba amgylchiadau y gallwn osod terfyn ar y tâl y gall corff dyfarnu ei godi mewn perthynas â dyfarnu cymwysterau a ariennir yn gyhoeddus.
Polisi cosbau ariannol yn nodi'r amgylchiadau lle rydym Cymwysterau Cymru yn debygol o osod cosb ariannol a y ffactorau yr ydym yn debygol o'u hystyried wrth bennu swm y gosb honno.
Polisi amodau trosglwyddo yn nodi'r amgylchiadau pan fo cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn debygol o gael ei gwneud yn ddarostyngedig i Amod Trosglwyddo, a'r amgylchiadau lle rydym yn debygol o Gyfarwyddo corff dyfarnu i drosglwyddo cymhwyster.
Adolygiadau ac ymgynghoriadau
Polisi ymgynghori yn egluro o dan ba amgylchiadau ac ym mha ffordd rydym yn cynnig cynnal ymgynghoriadau.
Datganiad polisi ar gynnal adolygiadau o gymwysterau a'r system gymwysterau yn egluro sut rydym yn adolygu gweithgareddau cyrff dyfarnu cydnabyddedig a'u cydymffurfiaeth â'n gofynion rheoleiddio, yn ogystal â'r ffordd rydym yn adolygu'r system gymwysterau ehangach.
Adolygu datganiadau polisi yn gyson yn ymwneud â sut rydym yn cadw datganiadau polisi dan adolygiad, gan gynnwys, pam rydym yn adolygu polisïau, sut rydym yn adolygu polisïau, a’n cylch adolygu polisi a’n proses gymeradwyo.
Cydnabod a chymeradwyo
Llawlyfr Cydnabyddiaeth – yn nodi’r gofynion y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni cyn y gellir ennill statws cydnabyddiaeth gan Cymwysterau Cymru.
Llawlyfr dynodi - mae’n egluro beth yw cymhwyster dynodedig, a sut rydyn ni’n cefnogi dynodi cymwysterau. Mae hefyd yn egluro sut mae dynodiad yn peidio â chael effaith pan fydd cymhwyster cymeradwy sydd yr un fath neu'n debyg iddo yn dod i rym.
Polisi rhestr cymwysterau blaenoriaethol a chymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig
yn nodi ein dull o gymeradwyo cymwysterau i'w dyfarnu yng Nghymru, ac yn amlinellu'r rhesymeg dros gyfyngu ar gymwysterau blaenoriaethol a'r prosesau cysylltiedig.
Cynllun a wneir o dan Adran 15 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 yn mynd i'r afael â sut rydyn ni’n gwneud trefniadau ar gyfer datblygu cymwysterau â blaenoriaeth gyfyngedig.
Cynllun a wneir o dan Adran 17 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015
Yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Cymwysterau Cymru ("y Ddeddf"), mae'r ddogfen bresennol yn gwneud darpariaethau ar gyfer ceisiadau i'w cymeradwyo o dan Adran 17(2) o'r Ddeddf, a'n hystyriaeth o'r cymwysterau hynny.
Cynllun a wneir o dan Adran 19 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 mae'r Cynllun hwn yn nodi'r ffactorau rydym yn debygol o'u hystyried wrth benderfynu a ddylid ystyried ceisiadau i gymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn flaenoriaeth ai peidio. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi ein gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo cymwysterau o'r fath o dan adran 19(2) o'r Ddeddf.
Cwynion, adrodd, apeliadau a digwyddiadau
Cwynion am gyrff dyfarnu Mae'r polisi hwn yn gymwys i unrhyw un sy'n awyddus i gwyno am gorff dyfarnu a gydnabyddir neu am un neu fwy o'r cymwysterau rheoleiddiedig a gynigir gan gorff dyfarnu o'r fath.
Polisi rheoleiddiol ar chwythu'r chwiban Nod y polisi yw rhoi eglurder o ran pwy y gellir ei ystyried yn chwythwr chwiban, rhoi eglurder o ran y math o ddatgeliadau y gallwn eu hystyried ac na allwn eu hystyried ac amlinellu'r broses y byddwn yn ei dilyn wrth ymdrin â datgeliadau chwythwr chwiban.
Polisi apeliadau rheoleiddio Mae'r polisi hwn yn gymwys i unrhyw un yr effeithiwyd arno gan benderfyniad rheoliadol a wnaed gan Cymwysterau Cymru ac sy'n awyddus i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Polisi rheoleiddiol ar reoli digwyddiadau yn amlinellu ein prosesau mewnol ar gyfer rheoli digwyddiadau rheoleiddiol. Lluniwyd y weithdrefn hon er mwyn sicrhau bod unrhyw un a hoffai ein hysbysu o ddigwyddiad rheoleiddio yn deall y weithdrefn ar gyfer rheoli'r broses hon.
Polisi camau annerbyniol gan achwynwyr Weithiau, mae pobl yn ymddwyn mewn modd sy'n ei gwneud yn anodd i ni ddelio â'u cwyn yn effeithiol neu o gwbl. Yn yr achosion prin hyn lle mae ymddygiad achwynydd yn cael ei ystyried yn annerbyniol gennym ni, bydd y polisi hwn yn berthnasol.
Datganiadau polisi eraill
Datganiad Polisi ar Gydweithio - Mae'r datganiad hwn wedi'i anelu at unrhyw un sydd am gydweithio â ni mewn cysylltiad â'n swyddogaethau neu faterion eraill sy'n ymwneud â chymwysterau.
Datganiad Polisi ar Ddarparu Gwasanaethau - Mae'r datganiad hwn yn egluro o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ystyried a ddylid cymryd rhan mewn gweithgareddau masnachol fel y'u diffinnir o dan adran 45 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Datganiad Polisi Codi Tâl am Wasanaethau Rheoleiddio - Mae'r polisi hwn yn esbonio o dan ba amgylchiadau y gallwn godi tâl ar gyrff dyfarnu o ran y costau yr eir iddynt wrth gyflawni ein swyddogaethau amrywiol.
Polisi Allbynnau Ystadegol - Mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r ffordd y byddwn yn cyhoeddi allbynnau ystadegol sy'n ymwneud â'r data rydym yn eu casglu ar gymwysterau rheoleiddiedig. Mae hi hefyd yn disgrifio'r ffordd y gallwn ddiwygio ein datganiadau ystadegol rheolaidd.