Cymwysterau Cymru yn nodi degawd o rymuso dysgwyr a galluogi newid
Heddiw (19/05/26) mae’r rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi adroddiad effaith newydd sy'n tystio i ddegawd o adeiladu a chynnal system gymwysterau ddibynadwy i Gymru sy'n cefnogi anghenion dysgwyr, addysgwyr a chyflogwyr.
Sefydlwyd y corff yn 2015, yn dilyn argymhelliad gan Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 19 oed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd ar y pryd, a oedd yn galw am reoleiddiwr cymwysterau annibynnol a fyddai’n gweithredu y tu allan i'r llywodraeth.
Yn y 10 mlynedd ers ei ffurfio, mae'r sefydliad wedi cael ei lywio gan ymrwymiad i degwch i ddysgwyr, ochr yn ochr ag arloesedd a chydweithio. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi cyflwyno nifer o raglenni cymhleth ar raddfa fawr ar reoleiddio a diwygio cymwysterau, gan sicrhau ystod eang o gymwysterau o ansawdd uchel sy'n cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudiaeth bellach neu waith.
Rhai o gerrig milltir Cymwysterau Cymru dros y degawd:
- Sefydlodd ei hun fel rheoleiddiwr annibynnol cyntaf Cymru ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau, gan ddarparu goruchwyliaeth arbenigol a diduedd ar hyd braich o Lywodraeth Cymru.
- Cyflwynodd gymwysterau gwneud-i-Gymru sy'n adlewyrchu anghenion dysgwyr yng Nghymru yn well, gan gynnal safonau a chymhariaeth.
- Goruchwyliodd ddyfarnu 8 miliwn o dystysgrifau ar gyfer dros 10,000 o gymwysterau rheoleiddiedig.
- Llwyddodd i sicrhau cynnydd o 132% yn yr ystod o gymwysterau cymeradwy.
- Cefnogodd y Cwricwlwm i Gymru drwy arwain datblygiad cyfres eang o gymwysterau 14-16 dwyieithog, cynhwysol o dan enw’r Cymwysterau Cenedlaethol newydd, gyda chyflwyniad graddol o 2025 i 2027.
- Cynhaliodd raglen reolaidd o adolygiadau penodol i'r diwydiant – gan gynnwys mewn technoleg gwybodaeth, adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, a gwallt a harddwch – sydd wedi trawsnewid cymwysterau galwedigaethol ar draws sectorau cyflogaeth allweddol ac wedi cefnogi economi Cymru.
- Ymatebodd i'r aflonyddwch sylweddol i asesu a achoswyd gan bandemig Covid-19 yn 2020 a 2021 drwy ddatblygu trefniadau dyfarnu amgen, gan sicrhau bod dysgwyr yn derbyn graddau a oedd yn eu galluogi i symud ymlaen i’r camau nesaf.
- Sicrhaodd degwch i ddysgwyr yng Nghymru drwy fabwysiadu dull graddol ac ystyriol o ddychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig.
- Dyblodd gyfran y cymwysterau cymeradwy neu ddynodedig sydd ar gael naill ai'n llawn neu'n rhannol yn y Gymraeg, gyda dros 1,200 bellach ar gael.
- Creodd gymhwyster Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwchradd newydd, neu TAAU, a fydd yn cynnig cymwysterau ymarferol, sy'n gysylltiedig â gwaith i bobl ifanc mewn 15 pwnc pan gaiff ei lansio yn 2027.
- Cadwodd dros hanner ei weithlu gwreiddiol o 2015.
Wrth lansio’r adroddiad effaith, dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker:
“Nid myfyrdod yn unig ar yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni yw’r adroddiad effaith hwn. Mae’n dathlu ymdrech ar y cyd yn ystod ein 10 mlynedd cyntaf. Diolchwn i’n staff, blaenorol a phresennol, a’n galluogodd ni i gyflawni popeth a wnaethom dros y cyfnod hwn, ein haelodau bwrdd trwy gydol y cyfnod, addysgwyr, cyrff dyfarnu, a rhanddeiliaid am eu dealltwriaeth, eu hegni, a’u hymrwymiad. Yn bennaf oll, rydyn ni’n dathlu dysgwyr Cymru – eu cyflawniadau, eu gwydnwch, a’u dyfodol. Ac wrth i’n Cymwysterau Cenedlaethol newydd barhau i gael eu cyflwyno, mae ein cenhadaeth yn parhau’n ddigyfnewid – i sicrhau bod cymwysterau’n diwallu anghenion dysgwyr ac yn hyrwyddo hyder mewn cymwysterau a’r system gymwysterau.”