BLOG

Cyhoeddwyd:

30.04.26

Paratoi ar gyfer cyfres arholiadau haf 2026

Wrth i ddysgwyr ar draws Cymru baratoi i sefyll arholiadau’r haf hwn, mae ysgolion a cholegau yn brysur yn eu cefnogi drwy gamau olaf eu cyrsiau. Gyda'r arholiadau TGAU cyntaf yn dechrau ym mis Mai, mae Kerry Davies, Pennaeth Monitro a Safonau Cymwysterau Cyffredinol yn amlinellu dull Cymwysterau Cymru o ran safonau ar gyfer haf 2026, yn atgoffa canolfannau o faterion allweddol, ac yn tynnu sylw at ble mae cymorth ar gael i ddysgwyr.

Mae arholiadau'r haf yn dechrau yr wythnos nesaf. Dyma gyfle cyffrous i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a’u gallu ar ôl blwyddyn o waith caled (er, rydyn ni’n cydnabod nad yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n meddwl hynny ar hyn o bryd). Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod prysur i ysgolion a cholegau wrth iddyn nhw gefnogi dysgwyr i gwblhau eu cyrsiau a’u hannog i adolygu.  

Rydyn ni wedi bod yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y dull o osod safonau TGAU Ton 1 yr haf hwn ond, wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn dal i ganolbwyntio ar y dull o gynnal safonau cymwysterau Safon Uwch, UG a'r TGAU cyfredol (a fydd yn dechrau cael eu galw yn gymwysterau TGAU etifeddol yn haf 2027). Roedden ni eisiau rhoi amlinelliad i'r rhai sy'n ymwneud â byd addysg o'r dull o osod safonau eleni a’u hatgoffa o faterion pwysig a bod cefnogaeth ar gael i ganolfannau a dysgwyr.  

Ein hagwedd tuag at safonau yn haf 2026 

Bydd safon y gwaith sydd ei angen i gyflawni pob gradd yr un fath â'r safon a oedd yn ofynnol cyn y pandemig. Mae hyn yn golygu y bydd graddau dysgwyr yn adlewyrchu lefel y wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd i’w gweld yn eu gwaith, yn gyson â threfniadau sefydledig.  

Mae ffiniau graddau yn cael eu gosod ar gyfer pob cyfres arholiadau a phob asesiad ar wahân. Er bod papurau arholiad wedi'u cynllunio i gynnal lefel gyson o flwyddyn i flwyddyn, mae’n anodd iawn cyflawni hyn, felly gall newidiadau bach mewn ffiniau graddau ddigwydd er mwyn sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal. 

Bydd pwyllgorau dyfarnu CBAC yn parhau i ddefnyddio ystod o dystiolaeth wrth osod ffiniau graddau. Mae hyn yn cynnwys barn arbenigol gan arbenigwyr pwnc, ochr yn ochr â gwybodaeth ansoddol ac ystadegol, er mwyn sicrhau bod safonau'n cael eu cymhwyso'n deg ar draws pynciau a chymwysterau. Rydyn ni’n monitro prosesau dyfarnu CBAC i gael sicrwydd bod safonau wedi'u gosod yn briodol. 

Mae cynnal y dulliau dyfarnu sefydledig yn bwysig wrth gynnal hyder pobl mewn cymwysterau yng Nghymru ac wrth sicrhau bod cyflogwyr a darparwyr addysg yn deall ac yn gwerthfawrogi canlyniadau dysgwyr. 

Cefnogi tegwch a chysondeb 

Mae canlyniadau arholiadau'r haf yn ffrwyth llawer o waith gofalus. Mae nifer enfawr o sgriptiau’n cael eu marcio gan gyrff dyfarnu – y llynedd, marciodd CBAC dros 1.1 miliwn o sgriptiau arholiadau. Mae cyrff dyfarnu hefyd yn cynnal prosesau sicrhau ansawdd helaeth, cyn y bydd pwyllgorau dyfarnu yn edrych ar samplau 'byw' o waith dysgwyr i'w helpu i ffurfio barn am safonau. 

Mae'r dull hwn – sydd weithiau’n cael ei alw’n ddull cyfeirio at gyrhaeddiad – yn helpu i sicrhau bod graddau wedi’u seilio ar yr hyn y mae dysgwyr wedi'i ddangos, yn hytrach nag ar gwotâu sefydlog neu ganlyniadau a bennwyd ymlaen llaw.  

Pethau y dylai ysgolion a cholegau eu cofio 

Wrth i ysgolion a cholegau baratoi ar gyfer dechrau'r gyfres arholiadau, rydyn ni’n atgoffa canolfannau i gofio’r pwyntiau allweddol canlynol: 

Bydd llawer o ddysgwyr blwyddyn 10 yn sefyll arholiadau uned TGAU Ton 1 yn yr haf, a bydd mwy o becynnau papurau arholiad nag arfer yn y rhan fwyaf o ganolfannau, a llawer o’r un pynciau. Mae CBAC wedi gweithredu systemau i wneud hyn mor hawdd â phosibl i'w reoli, er enghraifft pecynnau lliw gwahanol. Rhaid i ysgolion a cholegau ddilyn y rheolau ar gyfer agor pecynnau arholiadau, rhag gwneud camgymeriadau wrth agor y pecynnau cyn pob arholiad.  Rhaid i ganolfannau ddilyn canllawiau'r corff dyfarnu i ddiogelu uniondeb asesiadau, gan gynnwys rheoli mynediad at ddeunyddiau a mynd i'r afael ag unrhyw achosion posibl o gamymddwyn yn brydlon. Mae canllawiau ar atal ac adrodd am gamymddwyn ar gael ar wefan CBAC. Mae gan wefan Canolfan Seiber Gydnerth Cymru hefyd arweiniad defnyddiol ar ddiogelwch seiber.

Er y bydd dysgwyr sy'n sefyll arholiadau yr haf hwn eisoes wedi cwblhau unrhyw asesiadau di-arholiad sy'n gysylltiedig â'r gyfres hon, efallai y bydd dysgwyr yn dal i gwblhau asesiadau o’r fath ar gyfer pynciau eraill, neu ar gyfer cyfresi diweddarach. Dim ond pan fo’r fanyleb a'u hathro yn rhoi caniatâd y bydd dysgwyr yn cael defnyddio offer deallusrwydd artiffisial. Rhaid mai gwaith y dysgwr ei hun sy’n cael ei gyflwyno i gael ei asesu. Mae canllawiau’r Cyd-gyngor Cymwysterau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn asesiadau yn adnodd defnyddiol i athrawon ac aseswyr. 

Os bydd digwyddiad neu sefyllfa’n digwydd sy’n effeithio ar ddysgwr adeg arholiad, neu asesiad, gall canolfannau wneud cais am ystyriaeth arbennig i’r corff dyfarnu. Dylid gwneud ceisiadau cyn gynted â phosibl ac yn unol â gofynion y corff dyfarnu.

Dylai canolfannau fod â chynlluniau ar waith i reoli aflonyddwch, gan gynnwys digwyddiadau technegol neu rai seiber, a dylen nhw ddilyn ein canllawiau i helpu i leihau risgiau

Cymorth i ddysgwyr 

Gall cyfnodau arholiadau ac asesiadau fod yn straen i ddysgwyr. Mae ysgolion a cholegau yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu dysgwyr i deimlo'n hyderus a’u bod yn cael eu cefnogi. Mae gwybodaeth hefyd ar gael i ddysgwyr a'u rhieni neu ofalwyr sy'n egluro beth i'w ddisgwyl yn ystod cyfres arholiadau'r haf ac ar ddiwrnod y canlyniadau, a beth yw’r dewisiadau wedyn: 

Mae canllawiau adolygu, awgrymiadau gwych ar sut i gynnal brwdfrydedd, a chymorth lles ar gael drwy Hwb Lefel Nesa Llywodraeth Cymru. 

Ar ôl arholiadau'r haf 

Wrth i arholiadau gael eu cwblhau, bydd cyrff dyfarnu’n sicrhau bod sgriptiau’n cael eu marcio ac yn cynnal eu prosesau dyfarnu cyn diwrnodau canlyniadau ym mis Awst. Byddwn ni’n parhau i fonitro prosesau a chanlyniadau'n agos er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cymhwyso'n briodol ar draws cymwysterau. 

Hoffem ddiolch i ysgolion, colegau, athrawon a staff cymorth am y gwaith maen nhw'n ei wneud bob blwyddyn i gefnogi dysgwyr trwy gydol y gyfres arholiadau, ac rydyn ni’n dymuno'r gorau i bob dysgwr sy’n cwblhau eu hasesiadau dros yr haf.