Pob lwc ar gyfer eich arholiadau
Wrth i dymor yr haf ddechrau, mae llawer o ddysgwyr yn parhau i baratoi ar gyfer eu harholiadau, sy'n dechrau ymhen ychydig o wythnosau. Mae Paul Bevan, Cadeirydd Cymwysterau Cymru, yn dymuno pob lwc i'r holl ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau.
Mae cyfres arholiadau ac asesiadau blynyddol yr haf yn dechrau ymhen pythefnos, a bydd dysgwyr ar draws Cymru yn cael cyfle i ddangos beth maen nhw'n ei wybod wrth iddyn nhw gwblhau eu cymwysterau.
Pob lwc i bawb sy'n paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau eleni.
I ddysgwyr drwy Gymru gyfan, bydd yr wythnosau nesaf yn gyfle i grynhoi a rhannu beth rydych chi wedi ei ddysgu. I lawer ohonoch, byddwch chi’n croesawu’r cyfle i rannu popeth rydych chi wedi ei ddysgu yn ystod eich astudiaethau, ond mae e hefyd yn gallu bod yn gyfnod heriol. Efallai byddwch chi'n teimlo pwysau i gael eich canlyniadau gorau, yn ceisio cydbwyso adolygu gydag ymrwymiadau eraill, neu'n teimlo'n nerfus am beth sydd o'ch blaenau.
Dydych chi ddim ar eich pen eich hunain, ac mae cefnogaeth ar gael i helpu pawb i gyflawni eu gorau. Mae llawer o ysgolion a cholegau yn cynnig sesiynau adolygu, cymorth lles, neu rywun y gallwch chi siarad â nhw os ydych chi'n teimlo dan straen. Mae athrawon a darlithwyr eisiau helpu, felly peidiwch â bod ofn siarad gyda nhw. Ac mae ‘na lawer o bobl yn gweithio gyda'i gilydd y tu ôl i'r llenni i'ch cefnogi chi drwy eich arholiadau a'ch asesiadau, gan gynnwys pawb yn Cymwysterau Cymru.
P'un ai ydych chi'n sefyll eich cyfres gyntaf o arholiadau neu'ch rhai olaf, mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn cyfrif, ond dyw e ddim yn eich diffinio chi. Cymerwch ofal ohonoch chi'ch hunain, crëwch gynllun adolygu, cymerwch seibiannau, cofiwch y cyngor mae eich athrawon a'ch darlithwyr wedi ei roi i chi, a chanolbwyntiwch ar wneud eich gorau gyda beth rydych chi'n ei wybod.
Ar ran pawb yn Cymwysterau Cymru, dymunwn y gorau i chi ar gyfer yr wythnosau i ddod. Pob lwc - ewch amdani.
Cymorth a chefnogaeth
Mae ‘na hefyd adnoddau ar-lein sy’n gallu eich helpu chi i ddeall sut mae arholiadau ac asesiadau’n gweithio, beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod y canlyniadau, a beth yw eich opsiynau wedyn:
- Mae canllawiau adolygu, awgrymiadau defnyddiol ar gyfer sut i gadw’n frwdfrydig a chymorth lles ar gael drwy Hwb Lefel Nesa Llywodraeth Cymru.
- Gallwch chi hefyd gael rhagor o wybodaeth yn ein canllaw Help Llaw i ddysgwyr ar gyfer arholiadau ac asesiadau.
