NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

16.06.26

Rheoleiddiwr yn cyhoeddi cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru newydd

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad canfyddiadau a phenderfyniadau ar ddylunio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) newydd.

Mae ei adroddiad yn amlinellu'r penderfyniadau y mae'r rheoleiddiwr wedi'u gwneud mewn ymateb i ganfyddiadau o'i ymgynghoriad helaeth â rhanddeiliaid. Bydd y penderfyniadau hyn yn sail i'r gofynion rheoliadol y bydd yn eu gosod ar gyfer cyrff dyfarnu wrth iddynt ddylunio a datblygu'r cymwysterau newydd ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf o hydref 2028.

Cyhoeddir yr adroddiad yn dilyn adolygiad manwl o gymwysterau SHC ac ymgynghoriad 12 wythnos o hyd gan y rheoleiddiwr ar ei gynigion manwl, rhwng Tachwedd 2025 a Chwefror 2026. Denodd yr ymgynghoriad a’r arolwg fwy na 700 o ymatebion, gyda Cymwysterau Cymru yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr.

Bydd nawr yn diwygio cymwysterau mewn cymhwyso rhif, cyfathrebu a llythrennedd digidol.  Mae'r diwygiad hwn yn cael ei wneud er mwyn cryfhau'r gyfres o gymwysterau, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol, yn afaelgar ac yn hydrin i ganolfannau eu cyflwyno ac i ddysgwyr eu cwblhau.  

Enw'r cymwysterau newydd fydd Sgiliau Hanfodol Cymru Rhifedd, Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd a Sgiliau Hanfodol Cymru Digidol. Byddant yn cael eu dylunio i'w defnyddio ar gyrsiau ôl-16 mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Mae'r cymhwyster rhifedd newydd yn cynnwys mwy o bwyslais ar fathemateg ariannol ac mae ystyriaeth i ddefnyddio a chymhwyso deallusrwydd artiffisial yn y cymhwyster digidol. Gellir sefyll y cymhwyster llythrennedd yn Gymraeg, Saesneg, neu gymysgedd o'r ddau.

Gan fod y diwygiadau hyn yn canolbwyntio ar y pynciau sydd wedi'u cynnwys yn y gofynion craidd ar gyfer fframweithiau prentisiaethau, nid yw'r cymhwyster SHC mewn cyflogadwyedd yn cael ei ddiwygio fel rhan o'r gwaith hwn – sy'n golygu y gall cyrff dyfarnu barhau i'w gynnig os ydyn nhw’n dymuno.

Yn 2025, dyfarnwyd 32,540 o dystysgrifau SHC i ddysgwyr ledled Cymru fel rhan o brentisiaethau, rhaglenni addysg bellach ôl-16 a dysgu oedolion yn y gymuned.

Dywedodd yr Uwch Reolwr Cymwysterau, Oliver Stacey: "Diolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser ac wedi cymryd rhan yn ein hymgynghoriadau. Rydyn ni wedi gwrando ar eich barn a'i hystyried yn ofalus yn ystod ein proses benderfynu.

“Mae'r newidiadau rydyn ni’n eu gwneud i'r cymwysterau yn canolbwyntio ar wella eu hydrinedd i ddysgwyr a darparwyr dysgu trwy leihau'r amser asesu cyffredinol. Bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru fel bod y cymwysterau’n adlewyrchu'n well y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith – y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym yn gyson eu bod yn berthnasol ac yn gymwys i bob dysgwr.”

Darllenwch yr adroddiad llawn.